Hafan / Home | Siopau / Shops | Afon Machno | Seindorf Arian Machno | Maths | Beics | Lluniau / Pictures
 
     
 
Siopau Penmachno: Rhan 3
Cwm Penmachno
Rhan 1
Rhan 2

Penmachno
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3

Modelau
Cwm Penmachno
Penmachno

Nawr fe awn dros bont fawr Penmachno. Adeiladwyd y bont a welwch isod yn 1781. Ond nid hon oedd y bont gyntaf i gael i'w hadeiladu. Ysgubwyd Pont arall ar yr afon ar y 20fed o Fehefin, 1779, gan y "llifeiriant bythgofiadwy". Dydd cyn ffair Llanrwst oedd hi, "Ffair y gwlân" fel gelwid pryd hynny...

Y diwrnod yma roedd lliaws o Sir Feirionydd ar ei ffordd i'r ffair i werthu eu gwlân. Bu rhaid iddynt oherwydd y mellt a'r taranau enbyd ddisgyn ym Mhenmachno, a rhoi eu ceffylau yn y stablau. Lladdwyd chwech o'r ceffylau gan fellt.

[Pont Fawr Penmachno]
Pont Fawr Penmachno

Ar yr un diwrnod roedd priodas Robert Griffiths, Tan'rallt. Nid oedd modd bod yn llawen oherwydd yr ofn o weld y bont yn mynd hefo'r llif. Aeth llawer i adeilad arall gyda'r llif, a chollodd amryw o bobl ac anifeiliaid eu bywydau. Yn ôl sôn roedd yr holl dir wedi ei orchuddio gyda phridd, glo a cherrig, o Flaen y Cwm i'r Pandy. Difethwyd yr ŷd, a'r gwair, a symudodd yr Afon ei gwely yn hollol mewn rhai llefydd.

Dau fwa oedd i'r hen bont, ond mae gan y bont bresennol bedair, ac englyn wedi ei ysgrifennu arni gan Sion Owen, a aeth i America.


Yn syth ar ôl i chi groesi'r bont, gwelwch beth oedd yn arfer bod yn siop groser, dillad a hetiau merched. John Richards oedd perchennog y siop, cyn i Richard Pritchard, cyn perchennog siop "London", gymryd trosodd, a sefydlu Post yno. Cadwai hefyd "dressmaker" yno, ac roedd llawer o alw arni pan ddeuai angladd.

Yn ddiweddarach, cymerodd Roger Roberts y Post drosodd, ac adeiladodd fecws newydd ar dir y Post. Yr oedd yn siop brysur iawn, ac roedd Roger Roberts yn mynd o gwmpas yn gwerthu bara a theisennau ym Mhenmachno a'r cyffiniau.

Yma 'roedd y Co-op diwethaf ym Mhenmachno, cyn i berchennog arall gymryd trosodd. Nawr mae'r Post wedi cau i lawr, ac wedi ei newid i fflatiau. Mae rhai yn dweud fod y Post wedi colli ei gymeriad wedi i'r feranda gael ei thynnu i lawr.

[Swyddfa Bost Penmachno]
Swyddfa Bost Penmachno

Dros y ffordd i'r Post roedd siop Jane Davies, Bryn Eglwys. Siop esgidiau a theganau oedd hon, ac yr oedd meibion Mrs. Davies yn gweithio yn y selar o dan y tŷ yn trwsio beics ac esgidiau. Gwerthai "Carbide" i wneud golau i lampau beics y Llan.

Mewn amser cymerodd Nesta Jones y siop i werthu dafadd i weu, dillad gwlâu ac ychydig o ddillad i ferched. Tŷ sydd yn lleoliad y siop nawr.

[Siop Jane Davies, Bryn Eglwys]
Siop Jane Davies, Bryn Eglwys

I lawr y llwybr a welwch uchod roedd siop teiliwr arall, sef siop John Williams. Commerce House oedd enw'r siop, ac roedd y perchennog yn frawd i'r teiliwr a drigai ar y pryd yn "Four Crosses". Gwerthodd ddillad a nwyddau groser yma yn ogystal â nwyddau teiliwr.

Mae'r perchennog presennol wedi cadw ffrynt yr adeilad yn union yr un peth ag yr oedd yn y gorffennol.

[Commerce House]
Commerce House

Tafarn fechan iawn oedd y Red Lion Inn, wedi ei hadeiladu ar ddechrau stryd Newgate. Ar un adeg bu Morris Lewis o Cwm yn trwsio esgidiau yn ymyl y Red Lion Inn.

Mae'r tai sy'n gyfagos ar dir mwy isel na gwely'r afon. Pan fu llifogydd, bydd dwr yr afon yn dod i mewn i'r tai - mae'r bobl sy'n byw yn y stryd heddiw yn dal i gael trafferth gyda llifogydd.

Uwchben y llun gwelwch Eglwys y pentref. Sylwch ar y corn sydd erbyn heddiw wedi ei dynnu i lawr. Yn anffodus nid yw'r Eglwys yn agored ar ddydd Sul dim mwy.

[Red Lion Inn]
Red Lion Inn

Nes i lawr y stryd o'r Red Lion Inn roedd siop Catrin Jones, "Mignit". Deuai hon rhywdro o Ffestiniog i'r ardal, dros y Migneint. Mae'n siŵr fod y siop yn gyfleus iawn i blant ysgol gan fod y siop wedi ei leoli yn agos iawn i'r ysgol (Hen ysgol nawr).

Mae sôn fod rhes o dai wedi bod ar ochr arall y siop. Ar edrychiad gofalus o'r wal gyfagos, mae hoel siâp tai i'w weld. Tybed os wnaeth y tai yma gael eu hysgubo ymaith gan yr afon?

Ar un adeg hefyd roedd rhaeadr Machno gyferbyn y rhes o dai yma.

[
"Mignit"

Wrth fynd yn ôl i'r brif ffordd, gwelwch Bod Alaw heddiw. Ers talwm cadwai C. A. Vaughan siop fawr a werthai lefrith gan ei fod yn cadw gwartheg.

Yn ddiweddarach newidiodd y siop i fod yn Fidland Bank i'r pentref. Tacsi oedd yn mynd i nôl y bancwr o Betws-y-Coed; roedd rhaid i yrrwr y tacsi aros tu allan i'r banc fel milwr ar wyliadwriaeth ac wedyn mynd a'r bancwr gyda'r pres yn ôl i Betws-y-Coed.

Caewyd y banc yn y 70au. Yn sgìl hyn, agorodd Tomi Jones fusnes yswiriant a bu yn agored am rai blynyddoedd.

[Bod Alaw; Midland Bank]
Bod Alaw; Midland Bank

Machno Stores y gelwid y siop nesaf, siop eto yn gwerthu nwyddau groser. Y Co-op gymerodd y siop drosodd, yn gwerthu ar un cyfnod amryw o flodiau mewn bagiau mawr.

Ar ochr y siop, roedd storfa yn cadw'r blawd. Ar wyneb y storfa roedd pwli er mwyn codi'r bagiau blawd - roeddent yn rhy drwm i'w godi gan fôn braich yn unig.

Caewyd y siop a symudodd y Co-op i'r Swyddfa Bost. Trowyd y siop yn dy (Arfryn).

[Machno Stores]
Machno Stores

Y drws nesaf i'r "Machno Stores" roedd Liverpool House. Gwerthai Harry Roberts lestri a photiau, ac roedd yn prynu dodrefn ail law. Pan adeiladwyd yr adeilad yma yn gyntaf, hwn oedd Capel cyntaf y Wesleaid.

Yn ymyl Liverpool House roedd Martha Hughes yn gwerthu "buns". Hefyd yn y tŷ crwn cyfagos, cadwai Mrs. Pugh siop fwyd fechan. Gyda thair siop yn agos i'w gilydd, mae'n siŵr fod yr ardal yma o Benmachno yn brysur iawn.

[Liverpool House]
Liverpool House

Ychydig yn nes i'r sgwâr, gwelwn adeilad mawr nad yw yn bodoli dim mwy. Y White Horse Hotel oedd hon, wedyn yn cael ei alw'n "Ring". Sais o'r enw Mr. Parr oedd yn cadw'r gwesty, cyn i John Thomas gymryd drosodd ar ôl ymddeoliad Mr. Parr.

Roedd gweithdy crydd yng nghefn y "Ring" ar un adeg, yn cyflogi hyd at chwech o gryddion.

Y preswylwyr diwethaf oedd Mr. a Mrs. Tom Jones, a magodd 15 o blant. Cymerodd hwy drosodd gan Tom a Kate Roberts.

[White Horse Hotel; Y
White Horse Hotel; Y "Ring"

Ar ochr talcen y "Ring" roedd siop groser arall, yn cael ei chadw gan Haydn Richards ac wedyn Mr. Waddington. Trafaeliodd Mr. Waddington o gwmpas y pentref gyda'i gerbyd yn gwerthu ffrwythau i'w gwsmeriaid. Byddai yn mynd i Gwm Penmachno yn ogystal.

Byddai plant drwg y pentref yn disgwyl iddo gnocio ar ddrws tŷ er mwyn iddynt gael y cyfle i sleifio i ddwyn afal neu ddau o'r fan am ddim.

[Siop Mr. Waddington]
Siop Mr. Waddington

Manchester House sydd nesaf, ar dro'r sgwâr. Yr oedd Owen Ellis yn rhedeg busnes yno ers talwm, siop bwysig a phrysur. Gwerthai "Pork Pies" a selsig unwaith yr wythnos, a byddai plant y pentref yn cael tâl am fynd a nwyddau'r perchennog o gwmpas y pentref i werthu i'r trigolion.

Drws nesaf i'r siop roedd cartref yr heddgeidwad ar y pryd. Gwelodd rai y plismon Mr. Brookes yn mynd i brynu wyau, a gan ei fod ar ddyletswydd yn cadw'r wyau yn ei het. Nid oedd ar y pryd yn weddus i blismon gario pethau yn ei ddau law tra'r oedd ar ddyletswydd.

Daeth Price Ifans o Gwm Penmachno, sef brawd rheolwr y chwarel, i gadw'r siop am dipyn, cyn i Annie Eirwen Davies gymeryd y siop. Mr. Cartwright oedd y rheolwr nesaf, a daeth Tony Campling yno wedyn i barhau i werthu melysion, siwgr a the. Bu Graham Ball yn rheoli am gyfnod, cyn i'r perchennog presennol, Mr. Haveland, ddod i werthu lluniau cyn i'r siop gau i lawr.

Yn ymyl y siop uchod yn "Gethin Square" cadwai Wmffra a Marged Jones siop fechan "Vimto" yn gwerthu teisennau a diodydd fel lemonêd. Roedd Marged yn enwog am ei theisennau blasus.

[Manchester House]
Manchester House

Yn y lle cyntaf ar y chwith yn ffordd Glasgwm yr oedd Chester House, lle'r oedd Thomas Williams yn gwerthu esgidiau. Daeth Ann Williams yno wedyn i werthu melysion. Mi oedd yn selog iawn yn y capel. Gelwir hi yn "Ann Bach Iesu Grist" gan rai.

Yn nes ymlaen o'r siop roedd siop Elin Jones y Selar, yn gwerthu bara ceirch, taffi a phob math o "bop". Crydd oedd John Jones ei gwr, hefo gweithdy yn y "stabl bach", lle mae'r toiledau cyhoeddus heddiw.

[Chester House]
Chester House

Gwelwch yn awr siop "London House". Gwerthwyd dodrefn ail law, llestri a glo yn y siop yma. Symudodd y perchennog o Liverpool House i yma, lle'r oedd yn gwerthu'r un math o bethau.

Yn uwch i fyny na'r siop gwelwch ar y dde efail y Gof. Wrth i chi ddal i fynd fyny ffordd Cwm buasech wedi gweld hefyd gweithdy'r saer.

[Siop Powell Roberts]
Siop Powell Roberts

Plas Morda y gelwid yr adeilad a welwch isod, ac yn y gorffennol roedd siop bwysig yno, yn cael ei gadw gan Robert Thomas a'i deulu. Roedd bwydydd ar un ochr; dillad a hetiau ar yr ochr arall. Hon oedd fferyllfa Penmachno, lle'r oedd pawb yn mynd i ddatrys annwyd neu salwch.

Mae sôn fod ceir wedi cael eu gwerthu yma ar un adeg, ond heddiw mae ffrynt yr adeilad yn arddangos lluniau a fframiau i'w gwerthu i gwsmeriaid.

[Plas Morda]
Plas Morda

Siop olaf ein taith drwy Benmachno yw Bradford House, lle'r oedd Richard a Mary Evans yn masnachu.

Yn ddiweddarach daeth y siop i'w hadnabod fel "Siop L.K." gan mai'r perchennog oedd Lizzie Kate Evans. Ar ochr y siop roedd cwt lle'r oedd Mrs. Evans yn gweu ac yn gwnïo nifer gwahanol o ddillad i'w trwsio ac i'w gwerthu.

Newidiwyd y siop gan Gwilym Pen Bedw i dy yn y 40au.

[Siop L.K.]
Siop L.K.


Mae dros 30 o siopau wedi eu disgrifio uchod. Heddiw, mae'r rhan fwyaf ohonynt yn dai, a dim un yn dal ar agor yn gwerthu nwyddau. Nid yw'r rhestr uchod yn gynhwysfawr — mae'n siŵr fod aml i siop arall wedi bodoli yn y pentref, er enghraifft siopau torri gwallt, siopau tu allan i'r pentref, ac aml i fusnes mewn tŷ.

Diddorol yw ystyried a chofio sut le oedd Penmachno yn y gorffennol, gyda llawer o siopau i ddewis lle i wario eich pres. Bron fod mwy o siopau wedi bod ym Mhenmachno nad sydd yn nhref Llanrwst heddiw.

Roedd rhai o siopwyr y gorffennol yn mynd o gwmpas mewn ceffyl a throl. Heddiw mae'r mwyafrif o bobl yn gwibio o gwmpas mewn car. Efallai fod y rhyddid yma i fynd i siopa mewn archfarchnadoedd a siopau rhatach wedi ychwanegu at gwymp y siopau cefn gwlad.

 
  Map y safle / Site map | Cysylltwch â ni / Contact us