Hafan / Home | Siopau / Shops | Afon Machno | Seindorf Arian Machno | Maths | Beics | Lluniau / Pictures
 
     
 
Siopau Penmachno: Rhan 2
Cwm Penmachno
Rhan 1
Rhan 2

Penmachno
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3

Modelau
Cwm Penmachno
Penmachno

Cyrhaeddwn nawr ar ein taith ym mhentref Penmachno. Dros y blynyddoedd mae Penmachno wedi gweld newidiadau mawr. Newid mewn rhif poblogaeth, yn wir mewn ansawdd poblogaeth; newid mewn gwaith, a masnach; newid mewn crefydd ac mewn adloniant.

Ar ddechrau'r ganrif, ardal chwareli oedd Penmachno. Roedd y pentref yn datblygu oherwydd bod y rhan fwyaf o bobl Penmachno yn gweithio yn y chwareli. Adeiladwyd tai, ysgolion, siopau a chapeli. Erbyn heddiw, does dim gymaint o bobl yn byw ym Mhenmachno oherwydd diweithdra yng nghefn gwlad. Tra bod y tai, yr ysgol a'r capeli yn dal i gael eu defnyddio heddiw, nid yw'r siopau yn bodoli dim mwy. Fe awn nawr am daith o gwmpas Penmachno i weld yn lle oedd siopau'r gorffennol, beth oeddent yn gwerthu, a pwy oedd yn eu rhedeg.

Dechreuwn ar ein taith yn Gwydyr House, lle'r oedd siop o'r enw "Chwech a Hanner", yn cael ei chadw gan John a Catrin. Ar yr amser roedd Gwydyr House yn un tŷ mawr. Erbyn heddiw mae'r adeilad wedi ei rannu yn dri thŷ annibynnol.

Ar un adeg, bu'r siop yn le deintydd (y deintydd oedd Mr. Lyons). Mae hanes yn perthyn i'r deintydd yma: un tro aeth dau lanc o'r pentref i mewn i'r deintydd er mwyn cael triniaeth. Tra roedd un yn disgwyl ei dro, clywodd sgrech o'r ystafell driniaeth a rhedodd allan am ei fywyd. Ni aeth yn ôl i'r deintydd am amser hir iawn wedi hyn.

[Gwydyr House]
Gwydyr House

Ymlaen ar y dde mae siop Llys Caradog. Yn y gorffennol, roedd y siop yn gwerthu pob math o bethau megis bwyd, diodydd a melysion, ac roedd storfa flawd yng Nglan Pwll yn perthyn i'r siop yn ogystal. Nid oedd sôn am brynu bara ers talwm - roedd y rhan fwyaf o bobl yn gwneud eu toes eu hunain a thalu am grasu mewn popty mawr. Y tu ôl i ffordd Glasgwm oedd y prif bopty, yn cael ei redeg gan Elin Jones. Roedd hefyd bopty y tu ôl i'r "Ring".

Ar un adeg bu'r siop yn gwerthu petrol i foduron y pentref. Roedd hyn yn gyfleus i'r perchennog gan fod y siop hefyd yn rhedeg gwasanaeth tacsi.

[Llys Caradog]
Llys Caradog

Gwelwch nawr beth oedd yn arfer bod yn siop Esgidiau Dafydd Williams, y crydd. Lleolwyd ychydig ymlaen o'r siop uchod ar y chwith. Collfryn House yw enw'r tŷ ar hyn o bryd.

Gwelwyd llawer o fusnes yn y siop hon gan fod chwarelwyr y pentref yn gorfod gwisgo esgidiau hoelion ac yn gorfod cael eu trwsio neu eu hadnewyddu yn aml. Gwnaed y gwaith crydd dros y ffordd yn agos i Lys Owain.

[Siop Esgidiau Dafydd Williams]
Siop Esgidiau Dafydd Williams

Llun yw hwn o ddechrau'r ganrif yn dangos yr olygfa o Ben Ffordd newydd. Ar y chwith o'r llun, mae cip olwg ar un o siopau eraill y pentref, sef siop Ael y Bryn (gweler isod).

Gwelwch ddau blentyn yn cerdded ar hyd y ffordd. Nid tarmac oedd y ffordd fel heddiw, ond ffordd garreg a oedd yn anwastad iawn. Nid oedd yn addas i gerbydau modern, ond yn siwtio Ceffyl a throl i'r dim.

[Golygfa Pen Ffordd Newydd]
Golygfa Pen Ffordd Newydd

Yn cyfarfod terfyn y llwybr sy'n arwain i fyny'r Waen, mae Wenallt. Yn yr hen ddyddiau, siop Marged Jones "Y Rhic" oedd yn bodoli yma. Daeth y glasenw "Y Rhic" o'r llwybr yma. Siop ddiddorol i blant oedd siop Marged Jones - gwerthai fara ceirch, cyflaith a bwydydd eraill, yn aml wedi eu gwneud gartref.

[Y Rhic]
Y Rhic

Siop Ael y Don sydd nesaf ar ein taith, lle'r oedd Dafydd Roberts yn gwerthu cig. Ar un adeg (i lawr yng nghefn y siop) byddai beics yn cael eu hatgyweirio.

Yn nes i lawr na chwt y cigydd, roedd cwt "Oddfellows", sydd heddiw yn prysur ddymchwel. Ar un adeg o flaen y cwt, roedd sêt hardd i bobl y pentref eistedd arni.

[Siop Ael Y Don]
Siop Ael Y Don

Siop Ael y Bryn sy'n dod nesaf. Mrs. Jones "Y Dressmaker" oedd yn ei chadw hi gyntaf. Daeth Robert Morris yno wedyn a dechrau gwerthu papurau a llyfrau.

Tom Roberts oedd y perchennog nesaf, yn gwerthu papur Dydd Sul yn y parlwr. Mr. Roberts oedd y cyntaf yn y pentref i werthu papur Dydd Sul.

Mae perchenogion mwy diweddar yn cynnwys Annie Eirwen Davies a Mr. Cartwright.

[Siop Ael Y Bryn]
Siop Ael Y Bryn

Dros y ffordd ar y dde roedd siop bwysig iawn, sef siop "London". Roedd yn siop bwysig oherwydd ar un cyfnod bu'r adeilad yn Swyddfa'r Bost. Richard Pritchard oedd yn cadw'r siop, yn gwerthu nwyddau groser.

Yn ddiweddarach, cymerodd y Co-op reolaeth o'r siop, a symudodd y Swyddfa Bost i ochr arall y Bont. Hywel Thomas oedd rheolwr busnes y Co-op.

[Siop London]
Siop London

Wrth fynd yn nes ymlaen at y bont, awn i lawr yr allt sy'n cael ei alw'n allt y caffi. Roedd siop torri gwalltiau i ddynion ym mharlwr Caffi Talybont. William Jones oedd y barbwr.

Roedd y caffi yn gyfleus ar bnawn Sadwrn er mwyn cael paned o de ar ôl gwylio gem bêl-droed yn y cae, cyn mynd ymlaen am dref Llanrwst. Roedd paned a chacen digon rhad ar gael, am swllt a chwe cheiniog. (1-6c)

[Allt y Caffi]
Allt y Caffi

Ar y gornel, lle cychwynnai'r ffordd i Hafod Dwyryd ag i Ysbyty Ifan, mae siop Morris Griffiths. Gwerthai amryw o bethau yn cynnwys pob math o lysiau a bwydydd. Mae'r teulu yn dal i fyw yn yr adeilad hyd heddiw er bod y siop wedi cael ei newid i dy.

Roedd Morris Griffiths yn mynd o gwmpas yr ardal hefo ceffyl a throl yn gwerthu bob math o nwyddau. Bu ei deulu yn bêl-droedwyr o fri a rhai yn chwarae gyda Crystal Palace.

[Siop Morris Griffiths]
Siop Morris Griffiths

Ar waelod allt y caffi roedd siop arall sef Greenwich House. Mr. a Mrs. Owen oedd perchenogion y siop, yn gwerthu dillad plant. Gallai Mr. Owen drwsio clociau yn ogystal.

Newidiodd y siop yn feddygfa yn ddiweddarach, gyda Dr. Martin yr olaf i weithio yno cyn i'r feddygfa symud i Park Hill (ac yna i adeilad pwrpasol yn nhai newydd).

[Greenwich House]
Greenwich House

Drws nesaf i Greenwich House roedd siop y "Four Crosses". Gweithiau'r teiliwr Ellis Williams yma, yn daid i'r enwog awdur a darlledwr John Ellis Williams. Gwerthai ddillad i ddynion a merched.

Yn ddiweddarach trawsnewidiwyd y siop i siop chips y pentref. Bu hon yn siop brysur iawn am adeg hir. Yn awr mae'r adeilad yn dy.

[Four Crosses]
Four Crosses

Y siop ddiwethaf cyn y bont oedd y cigydd ym Mod Afon. William a Catrin Pierce a gadwai'r siop, a byddai William Pierce yn gwerthu ar hyd y Llan (a Chwm) ar drol fach yn cael ei thynnu gan ferlen.

Yn ddiweddarach, rhedwyd y busnes gan Mr. Jones y cigydd a oedd yn rhedeg siop gig yn y Cwm cyn symud i Benmachno.

[Bod Afon]
Bod Afon

 
  Map y safle / Site map | Cysylltwch â ni / Contact us