|
Ar y tudalennau yma fe awn am daith o gwmpas ardal Penmachno i atgoffa ni am siopau'r pentref yn y gorffennol. Lleolwyd Penmachno yng ngogledd Cymru, 4 milltir o bentref twristiaid Betws-y-Coed. Mae'n enwog oherwydd bod man geni William Morgan yn gyfagos, sef cyfieithydd cyntaf y Beibl i Gymraeg yn 1588. Mae'n adnabyddus hefyd gan fod y tenor enwog Richie Thomas wedi byw yma ar hyd ei oes.
Rhennir Penmachno yn ddwy ran gan bont y pentref, a adeiladwyd yn 1781.
Pont isel drafel ar dro, - pont lydan
I wladwyr drafaelio;
Pont a fydd mewn pant tra fo
Pont ar ochor Pentre fachno.
Sion Owen
Yn ôl yn 1881, poblogaeth Penmachno oedd 1,787. Mae'r boblogaeth bresennol yn tua chwarter hyn, sef gostyngiad mawr. Efallai fod hyn yn rheswm pam nad oes siop ym Mhenmachno ar hyn o bryd, a hefyd y datblygiadau modern o archfarchnadoedd a thrafnidiaeth.
Dyma ddisgrifiad o leoliad Penmachno yn ôl Llyfr Owen Gethin Jones (o'r ganrif ddiwethaf):
"Mae Penmachno yn sefyll ar gwr dwyreiniol swydd Gaernarfon, ac amgylchir ef gan y plwyfau canlynol: O du y gorllewin, Dolwyddelan; o du y Gogledd, Bettws-y-coed; i'r gogledd-ddwyrain iddo saif Llanrwst; ac i'r de-ddwyrain, Tir Eidda; ac i'r de-orllewin ceir Ffestiniog. Golchir ei waelod o un ochr gan afon Gonwy (yr hon yw terfyn Dinbych ac Arfon) am oddeutu tair milltir, a chyda godrau ei ran gogleddol, rhyngddo a Bettws-y-coed, mae yr afon Ledoer yn chwyro lifo yn ei ffordd tua'r môr. Ac mae uchel ysgwyddau mynyddoedd Meirion, megis hanner gwregys am ei ran uwchaf, am oddeutu dwy filltir a hanner o hyd."
Dechreuwn ein taith dwy filltir tu allan i'r pentref, yn ymyl ffordd yr A5. Yma ceir caffi Conwy Falls, lle mae twristiaid yn dod i gael tamaid i fwyta ar ôl gweld Rhaeadr Conwy sy'n gyfagos.
![[Caffi Conwy Falls]](p01falls.jpg)
Caffi Conwy Falls
Heddiw mae'r hen gwt bach a welwch yn y llun wedi diflannu ac mae adeilad mawr wedi cymryd ei le.
Ar y ffordd tua Phenmachno mae'r ffatri wlân (lle gweithiodd Richie Thomas o 1921 hyd ei ymddeoliad yn 1971), ac yma hefyd roedd siop teulu Hannah Jones. Siop ddiddorol dros ben oedd hwn - yn gwerthu dafadd i weu a dillad cynnes i'w gwisgo.
![[Siop Hannah Jones]](p02ffatri.jpg)
Siop Hannah Jones
Gwelwch nesaf y "Tyrpac". Cadwai Mrs. Jane Morris y Dugoed siop fechan yma er ei bod yn dal i ffermio yn Dugoed. Gwerthai rhyw fanion o fwydydd. Yn amser y siop roedd ymwelwyr haf yn dechrau dod i edrych ar raeadr y Machno a'r Bont Rhufeinig. Gwerthai'r hen wraig ymborth i'r rhain yn ogystal â rhedeg y siop.
Heddiw mae'r adeilad yn wag.
![[Y Tyrpac]](p03tyrpac.jpg)
Y Tyrpac
Capel Pen Isaf sydd dros y ffordd, yr ail gapel i gael ei adeiladu yno. Yn y tŷ cyntaf ar y chwith cadwai Robert Jones "Y Glo" siop. Erbyn hyn mae'r siop a'r capel wedi cau. Yn ddiweddar mae'r capel wedi cael ei drawsnewid i dy, a'r ddau dy wedi cael eu cyfuno i wneud un tŷ mawr.
Wrth droi i fyny'r ffordd yn ymyl yr adeilad gellwch drafaelio tua phentref Ysbyty Ifan.
![[Capel Pen Isaf]](p04glo.jpg)
Capel Pen Isaf
Yn awr fe awn ymlaen o Ben Isaf i drafaelio milltir a hanner ar hyd y ffordd fawr i Benmachno. Ar y ffordd fe basiwn y ffermydd canlynol: Dugoed, Ty'n Coed, Plas Eldon, Ysgwyfrith, Benar, Tyddyn Cethin, Yr Erw a Thyddyn Meistr.
|