|
Ar y dudalen yma, byddwn yn parhau gydag ychydig o hanes pen uchaf y Cwm.
Ar ddechrau'r ganrif, roedd y chwareli yn ei gogoniant ym mhen uchaf Cwm Penmachno, gyda llawer iawn o bobl yn mynd trwy'r fynedfa isod ar eu ffordd i weithio yn y chwareli i ennill eu bywoliaeth.
Mynedfa i'r Chwarel
Ar ôl dosbarthu llythyrau a pharseli yn y bore, arferai'r postmon aros yn y cwt isod i hel post y pnawn cyn mynd a'r llythyrau ac ati i lawr i Betws-y-Coed ar ei feic.
Lleoliad y cwt oedd yn Ddôl Cwm. Erbyn heddiw does dim byd i'w weld yn lle oedd y cwt yn arfer bod.
![[Cwt y Postmon]](c14cpost.jpg)
Cwt y Postmon
Pan oeddwn yn blentyn, roedd siop Tom Pierce y cigydd yn agor unwaith yr wythnos ar ddydd Gwener. Cymerwyd hi drosodd wedyn gan Nellie Williams. Gwerthwyd amryw o fân bethau. Daeth James Hughes yno wedyn fel crydd. Cofiaf y crydd yn mynd a'r lledr i Afon Swch i'w fwydo, a'i gadw i lawr gyda cherrig mawr.
![[Siop Cig]](c15scig.jpg)
Siop Cig
Y siop nesaf oedd y swyddfa Bost gyntaf yng Nghwm. Cymerwyd y siop drosodd gan y Co-op. Roedd "Dividend" yn cael ei dalu dwywaith y flwyddyn, ac roedd hyn yn boblogaidd iawn gan drigolion y Cwm. Roedd y Co-op yn gwerthu bob dim, er enghraifft bwyd, dillad, esgidiau a.y.b.
![[Post 1af Cwm]](c16post1.jpg)
Post cyntaf Cwm Penmachno
Gyda llaw, nid yn y fan yma agorwyd y Co-op gyntaf yng Nghwm. Agorwyd y Co-op gyntaf yn Swch, yn swyddfa'r Chwarel. Roedd Siop Dic y crydd (Rich Richards) yn un o hen adeiladau'r chwarel. Byddai yn trwsio esgidiau ac yn gwneud pob math o fatiau "Coco Matting". Byddai Richard Evans, Blaen-y-Cwm a Robert Hughes, Carrog, yn mynd yno ar gyda'r nos i agor y siop ar ôl diwrnod o waith yn y chwarel. Yn y fan yma yr oedd chwarel Swch.
![[Swyddfa'r Chwarel]](c17swch.jpg)
Swyddfa'r Chwarel
Yn Blaen Cwm roedd cigyddion y Cwm yn lladd ac yn trin yr anifeiliaid. Roeddynt yn mynd o gwmpas pentrefi mewn fan i werthu cig. Evan Roberts ac Emlyn Evans oedd y ddau a fu'n rhedeg y busnes yma.
Cofiaf un fuwch yn arogli arogl gwaed ac yn denig allan o'r cwt, ac yn rhedeg i lawr y caeau, yn cael ei ddilyn gennym ni'r plant. Nid oeddwn yn ystyried ar y pryd pa mor berygl oedd hyn - gallai'r fuwch wedi gallu ymosod arnom yn hawdd iawn.
![[Lladd-dy Cwm]](c18lladd.jpg)
Lladd-dy Cwm
Yn y tŷ cyntaf ar y chwith yn Rhos Goch cadwai Harriet Jones siop yn ei pharlwr yn gwerthu melysion, baco, sigarennau ac ychydig bach o fwyd. Pan oeddwn yn dechrau gweithio yn y chwarel, ar ôl cael paned naw, byddwn yn denig i lawr y domen i nôl sigarennau i hogiau'r chwarel.
Yr oedd tap dwr yn gyfagos - handi iawn i gael llymaid o ddŵr nawr ac yn y man. Cofiaf un noson tân gwyllt, pan aeth un o'r rocedi allan yn llaw fy ffrind, a llosgi ei wyneb a'i ddwylo. Yn lwcus iawn digwyddodd hyn yn ymyl y tap dŵr, a rhedodd fy ffrind at y dŵr i esmwytho'r anafiadau ac oedd yn datblygu.
![[Rhos Goch]](c19rhosg.jpg)
Rhos Goch
Roedd fy nhad Hugh Evans yn cadw'r siop yma, Siop Barin. Gwerthai Ffrwythau, Melysion a bwydydd. Yn un rhan o'r siop roedd ystafell yn cael ei ddefnyddio i dorri gwalltiau. Ar un adeg roedd tîm pêl-droed Cwm yn cael defnyddio'r siop fel ystafell newid. Bu Harriet Jones yn cadw'r siop am gyfnod cyn symud i dy, ac yn defnyddio'r parlwr fel siop.
![[Siop Hugh Evans]](c20hughe.jpg)
Siop Hugh Evans
Yn nes draw ar ôl siop Hugh Evans roedd cwt sinc. Yno roedd Robert Davies y crydd yn trwsio ac yn gwneud esgidiau. Hefyd yn Rhos Goch byddai Jennie Jones yn gwneud pysgod, sglodion a phys dwywaith yr wythnos, a hefyd yn mynd o gwmpas y pentref i werthu pysgod.
Gwelwch yn y llun Morris Griffiths, Llys Ifor, Penmachno, yn dadlwytho ei drol ger Rhos Goch, Cwm.
![[Morris Griffiths]](c21morgr.jpg)
Morris Griffiths
Yn y fan yma, Tro Tan Rhiw, oedd mynedfa i chwarel Rhiw Fachno. Ar un adeg roedd yna dafarn yn Tan Rhiw, efail y gof a hefyd stryd o dai. Cofiaf am Mr. Tomi Griffiths yn cadw moch mewn cwt ar waelod y domen.
Mae newid mawr wedi cymryd lle ers i'r llun yma gael ei dynnu - ni fuasai neb o'r cyfnod yn adnabod y lle nawr.
![[Tro Tan Rhiw]](c22ttrh.jpg)
Tro Tan Rhiw
Mrs. E. Edwards oedd yn cadw'r siop isod, yn gwerthu dillad, esgidiau, bwydydd, defnyddiau a dillad i chwarelwyr a ffermwyr. Ar ôl i'r siop gau, trawsnewidiwyd y siop i dy gan Mr. Evan Roberts y cigydd.
Safai'r siop ar dop stryd teras Rhiwbach, ac yma fe fyddai lleoliad gorsaf y bws. Roeddwn yn defnyddio'r bws lawer gwaith ers talwm, i fynd i lawr y dyffryn at gyffiniau Llanrwst.
![[Siop E. Edwards]](c23jen.jpg)
Siop E. Edwards
Roedd Siop Dafydd Evans yn un o'r siopau prysuraf yng Nghwm, yn gwerthu popeth fel bwydydd, blodiau, ffrwythau, llysiau, .... - ac yn agor yn hwyr gyda'r nos. Perchennog cyntaf y siop oedd Ann Evans ac wedyn ei mab Dafydd Evans a'i deulu. Roedd Dafydd Evans yn bobwr, ac arferai grasu bara ac ati i'w werthu yn y siop. Roedd hefyd yn mynd o gwmpas y pentrefi gyda fan i werthu nwyddau, a oedd yn dyblu i fyny fel bws mini. Cadwai geir yn ogystal, i'w defnyddio fel gwasanaeth tacsi. Un o'r ceir oedd Austin 7, a chofiaf fynd i weld fy Modryb ym Mrymbo yn y car yma.
Siop Dafydd Evans
Roedd yn braf iawn cael byw yng Nghwm yr adeg yma. Cymdeithas glos a chyfeillgar er bod bywyd yn galed, gyda'r dynion yn gweithio yn y chwareli.
Ergyd fawr i'r gymdeithas oedd cau'r chwareli. Bu rhaid i'r rhan fwyaf o deuluoedd symud o Gwm i ffeindio gwaith. Erbyn heddiw nid oes yr un siop yn bodoli yng Nghwm. Mae aml i un yn dal i fynd i fyny i'r Cwm i hel atgofion ac i gerdded trwy'r chwarel dros y mynydd i Ffestiniog.
|