Hafan / Home | Siopau / Shops | Afon Machno | Seindorf Arian Machno | Maths | Beics | Lluniau / Pictures
 
     
 
Siopau Cwm Penmachno: Rhan 1
Cwm Penmachno
Rhan 1
Rhan 2

Penmachno
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3

Modelau
Cwm Penmachno
Penmachno

Dewch gyda ni nawr i ardal Cwm Penmachno i gael dipyn o hanes y siopau a oedd yn arfer bodoli yno.

Lleolir Cwm Penmachno tua thair milltir o Benmachno a saith milltir o Ffestiniog. Os ewch dros y mynydd o Deras Cwm Penmachno, fe fedrwch gerdded yn hawdd iawn i Flaenau Ffestiniog.

Poblogaeth Cwm ar ddechrau'r ganrif oedd 400. Roedd pob ty yn llawn o deuluoedd mawr, teuluoedd a oedd yn helpu ei gilydd yn y gymdeithas glos. Ar un adeg dechreuwyd adeiladu rheilffordd drwy Gwm Penmachno i Blaenau Ffestiniog yn lle drwy Ddolwyddelan. Fe welwch lle ddechreuwyd y tyllu yn "Twll y Cwm".

[Tro Tan Rhiw]
Tro Tan Rhiw

Cawn syniad o bwysigrwydd Bro Machno gan y paragraff canlynol o lyfr W.O. Pritchard, "Cwm Penmachno":

"The villages of Cwm and Penmachno raised more Ministers of Religion than any other comparatively sized village in the whole of Wales. A competition in an Eisteddfod held in 1912 was to name all the ministers born and bred in the parish during the past eighty years. The answer was that four had entered the Baptist Ministry; the Presbyterian fourteen; the Anglican Church seven; the Wesleyan Methodists thirteen; plus eleven lay preachers. Since then, many more have become Ministers of Religion, and it would be interesting if someone took the trouble to find out the correct number up to the present day."

Yn Rhyd-y-Gro oedd siop gyntaf y Cwm. Cadwai Kitty Roberts Siop (Yn y ty agosaf i'r Llan ar y chwith) yn gwerthu melysion, bwyd a bisgedi. Roedd bisgedi "Garibaldi" yn werth eu cael. Yn ddiweddarach bu Dei Jones yn byw yma. Yn arddwr o fri, byddai hefyd yn arfer gwerthu llysiau, ffrwythau a blodau i drigolion y Cwm. Daeth yn ôl i weithio i'r chwarel ar ôl treulio ychydig o amser oddi cartref.

[Rhyd-y-Gro]
Rhyd-y-Gro

Ar ddechrau stryd y Beniarth roedd tafarn o'r enw "Beniarth Arms". Drws nesaf i'r dafarn roedd siop John Roberts yn gwerthu bwyd a thybaco. Hefyd roedd Pugh Jones a'i fab John Jones yn rhedeg busnes o drwsio ceir, gwerthu petrol a llogi cerbydau. Heddiw tŷ preswyl yw.

[Beniarth] 
Beniarth

Pan ddeuai adeg rhyw sioe neu garnifal, bu'r lori fawr a gadwai Pugh Jones ym Meniarth yn gyfleus iawn i gario nwyddau a.y.b.

O dan Beniarth roedd llyn "Robart Williams". Yno byddai plant Cwm yn trochi pan ddeuai tywydd poeth. Ar un adeg boddodd Robart Williams yn y llyn. Dyma pam gelwid y llyn ar ei ôl.

Gwelwch isod Teras Carrog. Yn rhif 1, arferai Margiad Hughes werthu bara Ceirch, a oedd yn boblogaidd iawn ar y pryd. Byddai hefyd yn ymweld â thai i bobi bara Ceirch gyda rysáit y cymdogion eu hunain.

[Teras Carrog]
Teras Carrog

Yn rhif 3 byddai Lisa Jones yn gwerthu bwyd a melysion. Mae gennyf gôf plentyn o gerdded o dop Cwm sef hanner milltir i ffwrdd i Garrog i nôl sglodyn a sglodion.

Yn y rhan yma o Gwm mae hi'n bosib mynd ymlaen i fyny allt Hafodyredwydd i fynd ymlaen i gyffiniau Blaenau Ffestiniog ac ymlaen i'r de.

Dyfnant sydd nesaf ar ein taith o gwmpas Cwm Penmachno. Yn Ddolawen cadwai Kate Lewis siop yn gwerthu melysion a bwyd. Byddai hefyd yn pobi bara i'w werthu. Cafodd gwr Kate Lewis ddamwain wrth ddod adref yn y 1920au gan iddo daro beic modur. Pan oeddwn yn blentyn yn pasio, byddwn yn pasio yn ddigon distaw rhag ofn ypsetio rheolwr y chwarel a oedd yn byw yno.

Roedd siop R.M. Gwynant yn gwerthu bwyd, a hefyd yn pobi bara. Roedd ganddo bopty yn yr ardd gefn, a byddai rhai o bobl Cwm yn mynd yno i grasu eu bara.

[Dyfnant]
Dyfnant

Siop Isa oedd un o'r siopau cyntaf i'w gael ei hadeiladu yn arbennig er mwyn cael ei ddefnyddio fel siop. Gelwir yr adeilad yn "Dolwen" heddiw. Grace Jones oedd yn rhedeg y siop, ac yn gwerthu pob dim.

Roedd llawer o drafaelio yn ymyl y siop yma gan fod y Capel a'r Eglwys yn gyfagos - cyfleus iawn er mwyn i'r gweinidog gael prynu melysion ar nos Sadwrn cyn mynd i'r capel drwy ddydd Sul!

[Siop Isa]
Siop Isa

Gyferbyn "Siop Isa" roedd siop Jones y Cigydd. Un ochr i'r siop roedd cwt a arferai gael ei alw yn cwt llwgu. Roedd rhaid cadw'r gwartheg yn y cwt yma heb fwyd am ddydd cyn eu lladd. Yr ochr arall yn ymyl yr afon cadwai'r cigydd ei geir. Tu ôl i'r siop yn y cae roedd y tŷ lladd. Caewyd y siop pan aeth i fyw i Benmachno. Ar ochr dde'r siop roedd Ceunant Hafod Fraith yn rhedeg i lawr i gyfarfod Afon Machno.

[Siop Jones y Cigydd]
Siop Jones y Cigydd

Siop R.P. Roberts a'i wraig Mary Elin yw'r nesaf ar ein taith, Isfryn heddiw, yn gwerthu bwyd, dillad a moddion wrth y mesur. Roedd Mrs. Roberts hefyd yn gwnïo, yn trwsio dillad, ac yn gwneud dillad ysgol i blant. Yma byddai pobl ifanc Cwm yn cyfarfod gyda'r nos. Roedd pawb yn adnabod y siop yma fel "Siop Hen Bî".

[Siop R.P. Roberts]
Siop R.P. Roberts

Uwch i fyny na'r siop roedd David Davies yn byw (roedd yn rhedeg busnes gwerthu glo). Roedd ganddo sied fawr yn Swch yn cadw lori. Roedd pawb yn ei adnabod fel Dei Dei. Aeth i fyw i St. Helens i gadw "Siop Chips". Prynodd Seindorf Arian Machno'r cwt yn Swch ganddo. Llun diweddar o'r cwt a welwch; mae'r cwt heddiw wedi hen ddymchwel ac yn prysur ddadfeilio.

[Cwt Band; Cwt Glo]
Cwt Band; Cwt Glo

Perchennog Post Cwm oedd Charles Davies a'i wraig Catrin, ac yn ddiweddarach rhedwyd y Post gan eu merch Nellie. Yn ogystal â busnes y post, roeddynt yn gwerthu bwydydd, papurau newydd a pharaffîn. Mae cof gennyf wrth wweithio yn y chwarel mynd a hanner coron ar brydiau i'r cyfrif post.

Drws nesaf i'r Post roedd Ysgol Cwm Penmachno. Fel hogiau bach byddent yn denig o'r ysgol i brynu melysion yn y Post. Weithiau byddent yn cael ein dal gan y prifathro, ac yn colli'r melysion tan ddiwedd yr wythnos!

[Post Cwm Penmachno]
Post Cwm Penmachno

Bryn Madog: Siop Jane Jones a'i merch Catrin yn gwerthu bwyd, melysion a "Ginger Beer". Galwyd y siop yn "London Steps". Roedd hon yn siop handi iawn i blant yr ysgol. Yn ddiweddarach daeth Robin a Nan Williams yma i fyw yn cadw gwartheg ac yn gwerthu llefrith. Roedd Robin yn gweithio yn y chwarel, yr ail un i yrru'r peiriant mawr newydd a ddaeth i'r chwareli i godi baw.

[Bryn Madog]
Bryn Madog

Yr enw iawn ar y siop isod oedd "Glasfryn Stores", ond Siop Ddôl roedd pawb yn ei galw. Thomas a Jane Rowlands oedd yn cadw'r siop, a'i chwaer Miss Thomas yn ei helpu. Yma gwerthwyd bwydydd, dillad, hetiau a defnyddiau. Mewn blynyddoedd cymerodd y Co-op y siop drosodd. Y perchennog olaf oedd Mr. + Mrs. Hughes, Hafod-y-Fraith. Y siop yma oedd y siop Co-op ddiwethaf yng Nghwm.

[Glasfryn Stores]
Glasfryn Stores

Gwelwch nawr siop fach yn Ddôl. Yma roedd Lizzie ac Elin Jones yn cadw siop fach yn y parlwr, yn gwerthu dillad, hancesi poced a "lace". Yn nes i lawr roedd gweithdy'r Saer, a hefyd siop Price Evans - siop "Vimto" fel y gelwid. Gwerthodd baco, sigarennau a diodydd ysgafn.

Ar un adeg roedd Ddôl yn le prysur iawn yng Nghwm, oherwydd bod cymaint o siopau yma. Hefyd yn un o'r tai roedd Urdd Gobaith Cymru yn cyfarfod bob nos. Roedd cangen yr Urdd yng Nghwm yn un o'r rhai cyntaf yng Nghymru gyfan yn 1926.

[Ddôl Cwm]
Ddôl Cwm

 
  Map y safle / Site map | Cysylltwch â ni / Contact us