System Bwyntiau
Y flwyddyn yma, rydym yn defnyddio system newydd o gofnodi'r pwyntiau. Mae'r system wedi newid ers llynedd lle 'roedd yna system yn bur debyg i system bwyntiau Fformwla Un. Y flwyddyn yma caiff yr enillydd ugain o bwyntiau am ei ymdrechion. Caiff y sawl sy'n gorffen yn ail 15 o bwyntiau, a'r person arall sy'n gorffen ar y podiwm 10 o bwyntiau. Dyma'r system yn llawn:
Safle |
Pwyntiau |
1af |
20 pwynt |
2il |
15 pwynt |
3ydd |
10 pwynt |
4ydd |
8 pwynt |
5ed |
6 pwynt |
6ed |
5 pwynt |
7fed |
4 pwynt |
8fed |
3 pwynt |
9fed |
2 pwynt |
10fed |
1 pwynt |
Os fydd rhywun yn gyfartal ar bwyntiau, y person sydd efo'r cyfanswm lleiaf o amser sydd yn ymddangos gyntaf ar y tabl canlyniadau. Yn y sefyllfa annhebyg o ddau berson fod yn gyfartal ar bwyntiau ac amser, y person sydd wedi ennill y mwyaf o rasus sydd yn ymddangos gyntaf ar y tabl canlyniadau.
Bydd y canlyniadau i'w gweld mewn cylchgrawn arall a fydd ar gael ar ddiwedd y tymor. Pwy fydd yn ymddangos ar dop y tabl canlyniadau? John Aaron? Deiniol? Kenny? Cawn weld.
O.N. Os fydd rhywun yn methu ras, ei "amser" i'r ras yna fydd dwbl amser yr enillydd (tydi o ddim yn cael pwyntiau wrth gwrs).
|