Map o'r trac (cliciwch ar y map i weld fersiwn mwy) / Map of the track (click on the map to see a bigger version):
![[Map]](lluniau/dolen1small.jpg)
Map o ddolen 1 / A map of loop 1 (1.08 MB)
Nodyn: amcangyfrifwyd lleoliadau a llwybrau'r adrannau trac sengl / Note: the locations and loci of the single track sections have been estimated.
Disgrifiad answyddogol o'r trac (cliciwch ar unrhyw lun i weld fersiwn mwy) / Unofficial guide to the track (click on any picture to see a bigger version):
(Darn 2 o 2 / Part 2 of 2)
Mae graddiant y darn nesaf o'r ffordd yn debyg i raddiant y darn cyntaf o'r cwrs. Ar hyd y daith, fe welwn ddarn o drac sengl newydd sydd ar y funud (yng Ngorffennaf 2006) yn cael ei adeiladu.
This next section of road is similar in gradient to the very first section of road. Along the way you will notice a section of single track on the right hand side which, at the time of writing (July 2006), is still under construction.
![[Continuing uphill along the forest road]](lluniau/22b.jpg)
Parhau i fyny'r allt / Continuing uphill along the forest road (1.15 MB)
Yn edrych trwy'r coed ar y chwith, fe welwn gip-olwg ar ben draw Glasgwm, ein cyrchfan wrth gyrraedd Postyn 124.
Looking through the trees on the left, we can see right to the end of Glasgwm, our destination when we reach Post 124.
![[Looking towards the end of Glasgwm]](lluniau/22c.jpg)
Edrych tua diwedd Glasgwm / Looking towards the end of Glasgwm
(1.12 MB)
Pan rydym (o'r diwedd!) yn cyrraedd top yr allt, mae gostyngiad byr cyn i ni ddod i Bostyn 123.
When we eventually reach the top of the hill, there is a short descent before we come to Post 123.
![[Post 123: Entrance to the longest single track section]](lluniau/23a.jpg)
Postyn 123: Mynediad i'r darn trac sengl hiraf / Post 123: Entrance to the longest single track section (1.18 MB)
Mae'r darn hwn o drac sengl yn ein gweld yn mynd yn araf tuag at y lle'r oedd y ffyrdd i gyd yn cyfarfod gynnar. Rydym yn cychwyn drwy orffen y dringad a gychwynnwyd ym Mhostyn 120 (sy'n mynd a ni i tua 400m uwchben lefel y môr) cyn parhau gydag adran fwy fflat.
This section of single track sees us looping around towards the area of the meeting of the roads we encountered earlier. We start by finishing the ascent we began at Post 120 (taking us to a height of around 400m above sea level) before embarking on a long gentle section.
![[In the wilderness]](lluniau/23b.jpg)
Yn ganol y diffeithwch / In the wilderness (1.05 MB)
![[Highest point on the course]](lluniau/23c.jpg)
Pwynt uchaf y cwrs / Highest point on the course
(1.15 MB)
![[The road joining Posts 113 and 124]](lluniau/23d.jpg)
Y ffordd yn ymuno Postion 113 a 124 / The road joining Posts 113 and 124 (0.99 MB)
![[Nearing the end]](lluniau/23e.jpg)
Agosáu at y diwedd / Nearing the end (1.13 MB)
![[Exit at Post 124]](lluniau/24a.jpg)
Gorffen ym Mhostyn 124 / Exit at Post 124
(1.19 MB)
Os trowch i'r chwith yn y fan yma, mi fuasech ym mynd yn ôl i Bostyn 113. Y ffordd gywir i barhau yw mynd yn syth i fyny'r allt.
Taking a left turn here enables you to go back to Post 113. The correct way of proceeding however is to continue straight ahead up the hill.
![[The road back to Post 113]](lluniau/24b.jpg)
Y ffordd yn ôl i Bostyn 113 / The road back to Post 113
(1.12 MB)
![[Short climb to Post 125]](lluniau/24c.jpg)
Dringfa syml i Bostyn 125 / Short climb to Post 125 (1.13 MB)
Wrth gyrraedd Postyn 125, rydym yn troi i ffwrdd i'r chwith a dechrau darn o drac sengl sy'n mynd ar ei lawr. Nodwch fod y ffordd goedwig sydd yn mynd yn syth ymlaen yn arwain at derfyn.
Reaching Post 125, we fork off to the left to begin a downhill section of single track. Note that the forest road that continues straight ahead only leads to a dead end.
![[Post 125]](lluniau/25a.jpg)
Postyn 125 / Post 125
(1.22 MB)
![[Going downhill along the track]](lluniau/25b.jpg)
Mynd i lawr ar hyd y trac / Going downhill along the track
(1.19 MB)
Yn union cyn cwblhau'r darn yma, fe welwn fan lle gallwch edrych i lawr ar Lasgwm ar y chwith. Mae cyfres o droadau wedyn yn ein harwain yn ôl i'r ffordd goedwig.
Just before the end of this section, we spot a view towards Glasgwm in a clearing on the left hand side of the track. A series of U bends then takes us back towards the forest road.
![[A view left towards Glasgwm]](lluniau/25c.jpg)
Golygfa i'r chwith tuag at Lasgwm / A view left towards Glasgwm (1.05 MB)
![[Post 126]](lluniau/26.jpg)
Postyn 126 / Post 126
(1.18 MB)
Mae'r ffordd sy'n ymuno â ni o'r chwith wedi dod i fyny o'r fan lle'r oedd y ffyrdd i gyd yn cyfarfod yn ymyl Postyn 113.
The road that joins us from the left has come up from the meeting of the roads at Post 113.
![[Post 128]](lluniau/28a.jpg)
Postyn 128 / Post 128
(1.01 MB)
![[Moving off to the right]](lluniau/28b.jpg)
Symud ymlaen i'r dde / Moving off to the right (1.23 MB)
Ar ôl ychydig o lathenni rydym yn cyfarfod croesffordd.
After a short distance you will come to a crossroads.
![[Crossroads]](lluniau/29a.jpg)
Croesffordd / Crossroads (1.19 MB)
I barhau ar y trac, trowch i'r dde yn y groesffordd, yn mynd heibio postyn 129. Fel arall, gallwch fynd syth ymlaen i neidio i bostyn 141, neu droi i'r chwith i fynd yn ôl i bostyn 107.
To continue along the track, turn right at the crossroads, going past post 129. Alternatively, continue straight along the forest road to take a shortcut to post 141, or turn left to go back downhill to post 107.
![[Right turn at the crossroads]](lluniau/29b.jpg)
Troi i'r dde yn y groesffordd / Right turn at the crossroads (1.21 MB)
Bydd dringad hawdd yn mynd a chi heibio arwyddion rhybudd 130 a 131. Rydym yn agosáu at fferm Llechwedd Hafod, felly byddwch yn barod i gyfarfod anifeiliaid. (Gall ddefaid hefyd gael eu gweld ar fannau eraill o'r cwrs.)
A slight uphill section will take you past warning signs 130 and 131. We are approaching Llechwedd Hafod Farm, so be prepared to encounter livestock. (Sheep can also be encountered on other parts of the course as well.)
Arwydd rhybudd 130 / Warning sign 130 (1.19 MB)
Mae darn byr o drac nawr yn ein tywys i ddechrau darn o drac sengl yn ymyl postyn 133. Cyn hyn fodd bynnag, byddwch wedi sylwi ar ffordd serth yn mynd i ffwrdd i'r chwith. Mae'r ffordd hon yn cyfarfod gyda ffordd arall ar waelod yr allt, ffordd y byddwn ni yn trafaelio arno ar ôl gorffen y darn nesaf o drac sengl.
A short downhill section now commences taking you to the entrance of a single track section at post 133. Before this however, you will have noticed a steep downhill forest road going off to the left. This road meets another road at the bottom of the hill, a road we will be travelling along when we have completed the single track section.
Mynediad i'r darn trac sengl / Entrance to a single track section (1.11 MB)
Wrth f ynd i lawr y darn trac sengl, byddwch yn sylwi ar Gwm Penmachno ar eich chwith, sydd tua 3 milltir o Benmachno. Yn y llun cyntaf isod, fe welwch stryd o dai a adnabyddir fel Carrog ar ochr chwith y llun, yn ymyl lle mae'r ffordd yn hollti i ddau. O'r ddwy ffordd yma, mae'r ffordd sydd yn mynd oddi wrthym yn mynd a ni i fyny allt Hafodyredwydd ac (mewn amser) i gyffordd lle gellid troi i'r chwith i fynd i Ysbyty Ifan neu i'r dde i fynd i Flaenau Ffestiniog; mae'r ffordd sydd yn dod atom yn mynd a ni drwy Gwm Penmachno ac i derfyn lle mae stryd o dai sy'n cael eu hadnabod yn lleol fel Teras. Ar ochr dde'r llun, gellid gweld fferm Y Foel a Chapel Rhyd-y-Meirch.
Yn yr ail lun, fe welwn y ffordd sy'n mynd a ni drwy Gwm Penmachno, ond nodwedd fwyaf y llun yw'r chwarel. Roedd chwarel Rhiw Fachno yn un o nifer o chwareli yn ardal Cwm Penmachno a oedd ar agor ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf. Ar agor tan 1962, hwn oedd brif chwarel yr ardal, a hefyd y chwarel ddiwethaf i gau i lawr. Roedd rhai o chwareli eraill yr ardal yn cynnwys chwarel Rhiw Bach, chwarel y Bwlch a chwarel Cwt-y-Bugail.
Whilst travelling down the single track section, you will notice Cwm Penmachno on your left, which is around 3 miles from Penmachno. In the first picture below, we see a street of houses known as Carrog on the left hand side of the picture, located near where the road splits into two. Of these two roads, the road going away from us takes us up Hafodyredwydd hill and eventually to a junction where you can turn left to go to Ysbyty Ifan or right to go to Blaenau Ffestiniog; the road coming towards us takes us through Cwm Penmachno and to a cul de sac at a street of houses known locally as "Teras". On the right hand side of the picture, Foel Farm and then Rhyd-y-Meirch Chapel can be seen.
In the second picture, we see the road that takes you through Cwm Penmachno, but the major feature of the picture is the quarry. Rhiw Machno Slate Quarry was one of a number of slate quarries in the Cwm Penmachno area that were active at the beginning of the last century. Operating until 1962, it was the main quarry of the area, and also the final quarry to be closed down. Other quarries included Rhiw Bach, Bwlch and Cwt-y-Bugail quarries.
Cwm Penmachno (1.11 MB)
Chwarel Rhiw Fachno / Rhiw Machno Slate Quarry (1.12 MB)
Ar ôl disgyn tuag at Gwm Penmachno, mae'r trac sengl yn troi ac yn anelu yn ôl tuag at Lechwedd Hafod. Ar y ffordd, fe awn dros y bont a ddangoswyd isod.
After a descent towards Cwm Penmachno, the single track turns and heads back towards Llechwedd Hafod Farm. On the way, we cross a small bridge as shown below.
![[A bridge before post 134]](lluniau/33d.jpg)
Pont cyn Postyn 134 / A bridge before post 134 (1.15 MB)
Ymuno â'r ffordd goedwig / Joining the forest road (1.21 MB)
Unwaith rydym yn ymuno a'r ffordd goedwig yn ymyl postyn 134 (fe nodwn, ar amser ysgrifennu'r dudalen yma, fod dau bostyn wedi ei labelu gyda "134" ar y cwrs: un postyn rhybudd cyn ymuno â'r ffordd goedwig; ac un postyn gyda chyfeiriadau yn syth ar ôl ymuno â'r ffordd goedwig), fe welwn lwybr cyhoeddus yn mynd i ffwrdd i'r chwith. Mae'r llwybr yma yn cychwyn ym Mlaen-y-Cwm yng Nghwm Penmachno, cyn parhau i'r groesffordd yn ymyl postyn 129, ac wedyn yn cyfarfod â'r trac sengl yn union ar ôl postyn 109.
Once we join the forest road at post 134 (we note that, at the time of writing, there are actually two posts labelled 134: one warning sign just before joining the forest road, and one direction sign immediately after joining the forest road), we notice a public footpath going off to the left. This footpath begins in Blaen-y-Cwm in Cwm Penmachno, continues up towards the crossroads at post 129, and meets the single track just after post 109.
Llwybr cyhoeddus yn mynd yn ôl i fyny'r allt / A public footpath going back up the hill (1.20 MB)
Mae'r dringad olaf nawr yn dilyn, un sydd yn cynyddu mewn graddiant wrth fynd ymlaen.
There now follows a final uphill section, one that gradually increases in gradient.
Arwydd rhybudd 137 / Warning sign 137 (1.12 MB)
Wedi pasio postyn 138, fe welwn ffordd yn ymuno â ni o'r chwith. Hwn oedd y ffordd a basiwyd gynt wrth ddod i lawr o bostyn 132.
Having passed post 138, we notice a road joining us from the left. This is the road we noticed earlier coming down from post 132.
Cyffordd gyda'r ffordd i lawr o bostyn 132 / Junction with the road down from post 132 (1.19 MB)
Ar amser ysgrifennu'r ddogfen yma, does dim postyn wedi ei farcio gyda "139" neu "140" ar y cwrs, dim ond arwydd (heb rif) wedi ei labelu "Private Land No Access", sy'n cyfeirio at y ffordd sy'n mynd i ffwrdd i'r dde, ac nid at y ffordd goedwig rydym ni arno. Y postyn nesaf a welwn felly yw postyn 141, sydd i'w weld wrth gario yn syth ymlaen ac ymuno â'r ffordd sy'n dod i lawr o'r groesffordd ar y chwith.
At the time of writing, there are no posts marked 139 and 140 on the course, only an unnumbered warning sign entitled "Private Land No Access", which we note refers to the road going off to the right, and not to the main forest road. The next post we encounter is therefore post 141, which is encountered by continuing straight ahead on the forest road and joining the road coming down from the crossroads.
Cyffordd yn cyfarfod y ffordd sy'n dod i lawr o'r groesffordd / Junction meeting the road down from the crossroads (1.20 MB)
Trwy'r coed fe allwn weld cip-olwg arall o Gwm Penmachno ar y dde.
Through the trees we can now catch another glimpse of Cwm Penmachno on our right.
Golygfa tuag at Gwm Penmachno / View of Cwm Penmachno (1.11 MB)
Tua hanner milltir ar hyd y ffordd goedwig, fe welwn y mynediad i'r darn trac sengl diwethaf, ar ein hochr dde (mae'n eithaf hawdd methu'r mynediad; ond, os rydych yn ei fethu, yna y gallwch fynd ymlaen ar y ffordd goedwig (serth) i fynd yn ôl i'r maes parcio).
Around half a mile along the forest road, we find the entrance to the final section of single track, on the right hand side (it is quite easy to miss this entrance but, if you do, then it is possible to continue down the (steep) forest road to arrive back at the car park).
Mynediad i'r darn trac sengl olaf / Entrance to the final single track section (0.99 MB)
Tynnwyd y ddau lun canlynol yn ymyl postyn 142; yr Afon Fachno yw'r afon sy'n llifo pasio'r ddwy fferm.
The following two pictures were taken near post 142; the river flowing past the two farms is the River Machno.
![[Pen-y-Bedw]](lluniau/penbedw.jpg)
Pen-y-Bedw (1.16 MB)
Pen-y-Bont (1.22 MB)
Mae'r adran gyntaf o'r trac sengl yn cychwyn yn serth iawn, felly mae angen cymryd gofal i'w lywio yn saff. Mae'r trac wedyn yn troi i nifer o droadau (fel y gwelir isod) cyn gorffen gyda gostyngiad hir syth tuag at y llinell derfyn.
The final section of single track begins steeply, so care is required to navigate safely. The track then becomes a series of U-bends (as shown below) before finishing with a long straight descent towards the finishing line.
Troadau ar y darn trac sengl olaf / U Bends on the final single track section (1.23 MB)
Golygfa tuag at Benmachno / A view towards Penmachno (1.12 MB)
Yn cyrraedd y diwedd / Approaching the finish (1.22 MB)
Diwedd y trac / End of the track (1.16 MB)
Wrth gyrraedd y ffordd goedwig unwaith eto, trowch i'r chwith ac mi fyddwch yn cyrraedd y maes parcio.
On reaching the forest road again, turn left and you will return to the car park.
Dechrau'r daith adref / The start of the journey home
(1.13 MB)
Yn ôl i Ddarn 1 / Back to Part 1
|