|
Dylan Griffiths: Cafodd ddau dymor siomedig llawn problemau mecanyddol. Ond y tymor yma, mae wedi cael beic newydd dibynadwy. Y ffefryn y tymor yma, mae wedi bod yn paratoi yn drwyadl trwy'r gaeaf a'r gwanwyn ag yn edrych ymlaen at gystadlu'r flwyddyn yma. Mae'r potensial yna i ennill y bencampwriaeth, mae hynny'n saff, er tydi Dylan ddim eto wedi dangos i ni ei allu'n llawn. A fydd y ffefryn yn ennill y bencampwriaeth? Amser a ddengys. |
|
|
|
Arwyn Jones: Dechrau addawol yn 1993 gan ennill y bencampwriaeth, ond yn gorffen yn y trydydd safle yn 1994 y tu ôl i Dylan a Deiniol. Y tymor yma Arwyn yw'r trydydd ffefryn i ennill y bencampwriaeth. Cafodd dymor siomedig y tymor diwethaf er iddo orffen yn drydydd yn y bencampwriaeth; 'roedd ganddo obeithion uchel ond Deiniol yn ei guro ym mhob ras. Gobeithiai am dymor gwell y tro yma. |
|
|
|
Deiniol Thomas: Ail yn 1993 ac yn gyntaf yn 1994; trydydd yn 1995? Y tymor yma bydd yn canolbwyntio ar ennill pwyntiau pwysig i'w dîm, a chadw'r record i fyny o orffen ar y podiwm ymhob un ras hyd yn hyn. Deiniol yw'r unig un i ennill ras Pen-Bryn, a hynny ar "Racer!" Er bod Deiniol yn mynd i orffen yn ail yn y bencampwriaeth yn ôl y bookmakers, mae'r gallu ganddo i ennill y bencampwriaeth eto. |
|
|
|
John Aaron: Dyma ei dymor llawn cyntaf, ond mae wedi cael profiad o'r blaen gan orffen yn drydydd yn ras Glasgwm. John yw'r allanolyn gyda'r cyfle mwyaf o ennill y bencampwriaeth. Cafodd amryw broblem fecanyddol yn ystod ei yrfa fel rasiwr y flwyddyn ddiwethaf ac felly nid ydym wedi gweld y gorau o John eto. |
|
|
|
Gareth Griffiths: Gyda dau dymor llawn y tu ôl iddo, mae Gareth wedi dangos gwelliant yn y byd beicio. Ni fydd Gareth yn bencampwr y tymor yma, ond mae'n edrych fel pencampwr y dyfodol. Yn frawd i'r ffefryn Dylan, mae Gareth yn yr un tîm ac Arwyn y flwyddyn yma, yn ceisio adio pwyntiau gwerthfawr i ymgais ei dîm i ennill pencampwriaeth y gwneuthurwyr. |
|
|
|
Steffan Morgan: Mae o wedi cael dau dymor dychrynllyd. Mae'n debyg yr un ffordd bydd y tymor yma yn mynd hefyd! Nid yw Steffan wedi rhoi'r ymdrech orau i gystadlu - yn wir, er iddo fod yn gystadleuwr y flwyddyn ddiwethaf, ni chymerodd ran mewn hyd yn oed un ras! Gorffennodd ar waelod y tabl canlyniadau hefo 0 pwynt a dirwy amser o ryw dair awr a hanner. Os am unrhyw obaith o ennill y bencampwriaeth yma, rhaid iddo ymgeisio ym mhob ras. Ond rhaid cofio nad ydym wedi gweld beth yw gallu Steffan. Yn erbyn pob dim, a fydd Steffan yn bencampwr y flwyddyn yma? |
|
|
|
Credig Morgan: Mae'n gobeithio am dymor gwell eleni, er iddo yntau gael dau dymor siomedig. Brawd i Steffan yw, ac fel ei frawd nid oes ganddo lawer o obaith yn ôl y bookmakers. Tua 250/1 yw e yn farn y bookmakers, dyn gwirion iawn fuasai'n rhoi pum punt ar Credig Morgan, er na dyn cyfoethog iawn fuasai pe bai Credig yn ennill! |
|
|
|
Chris Richards: Ei dymor llawn cyntaf. Nid oes neb yn gallu rhagfynegi ei safle olaf yn gywir, er mae'r rhan fwyaf o bobl efo'r farn na gorffen yng nghanol y tabl fydd o. Brawd John Aaron yw, er bydd yn gwneud yn eithriadol o dda i orffen o flaen ei frawd (oni bai am ryw ddigwyddiad unigryw). Yn hyderus iawn, bydd hyn o gymorth efallai. Gobeithiai orffen yn y pump gyntaf. |
|
|
|
Kevin Tushingham: Ei dymor llawn cyntaf. Wedi cymryd rhan mewn dim ond un ras o'r blaen ac felly profiad newydd fydd iddo. Eto yn farn y bookmakers gorffen yn isel fydd o, nid yn amlygu ei hun yn y ras am y bencampwriaeth. Seren y dyfodol, os wneith y rasus beic barhau i'r dyfodol, bydd yn bencampwyr un dydd mae'n siŵr. |
|
|
|
Martin Richards: Ei dymor llawn cyntaf. Bydd ei ffitrwydd yn gymorth iddo er efallai bod o allan o'i ddyfnder yn fan hyn. Ni fydd bod yn 5 neu 6 mlynedd yn iau na'r ffefrynnau yn help, ac nid oes ganddo brofiad o rasio fel amryw o'r lleill. Bydd yn sioc fawr os wneith Martin ennill y bencampwriaeth. Bydd rhai hyd yn oed yn dweud nag embaras i bobl fel Dylan, Deiniol ac Arwyn fydd o os wneith Martin ennill! |
|
|
|
Dylan Kennedy: Dieithryn newydd i'r byd beicio, mae'n debyg bydd yn meddwl am drechu ei elyn mwyaf sef John Aaron yn hytrach na mynd am y bencampwriaeth. Fel ei frawd, mae o'n gwybod trac Wybrnant fel cefn ei law a hwn fydd y ras fydd o'n ymdrechu fwyaf yn. Anfantais fawr fydd diffyg profiad a diffyg gwybod llawer o'r cyrsiau eraill. |
|
|
|
Kenny Richards: Ym marn rai, tymor siomedig sydd o flaen Kenny - ei oedran yn enwedig yn anfantais iddo. Er iddo gystadlu mewn aml i ras, nid yw Kenny wedi gorffen yr un ras erioed. Gorffen ras fydd ei nod y tymor yma. |
|
|
|
Siân Griffiths: Mae Siân a Bethan yn creu hanes gan mae hwy yw'r ddwy eneth gyntaf i ymdrechu yn y bencampwriaeth. Mae gan Siân y potensial i ennill pobl fel Chris a Credig. Mae wedi bod o amgylch rhai o'r cyrsiau yn cerdded ac efallai bydd hyn o fantais iddi. Mi fydd y cyrsiau felly yn gynefin iddi. |
|
|
|
Bethan Corrigan: Fel Siân un o'r genethod cyntaf i ymgeisio am y bencampwriaeth. Gyda beic newydd mi fydd hi yn edrych i orffen pob un o'r cyrsiau. Ei nod yw gorffen yn y deg uchaf y flwyddyn yma. Gyda Siân, mae hi'n ffurfio tîm Raleigh Activators ac mae pethau'n argoeli'n dda iddynt. Mae ganddynt siawns i ennill pencampwriaeth y gwneuthurwyr. |