Hafan / Home | Siopau / Shops | Afon Machno | Seindorf Arian Machno | Maths | Beics | Lluniau / Pictures
 
     
 
Rasus Beics Penmachno 1995: Cyrsiau

Cysylltiadau

Prif Dudalen
Cystadleuwyr
Cyrsiau
Pwyntiau
Steil Bywyd
Cyfweliad
Cartŵn

Y Cyrsiau

 

Enw

Pellter

Enillwr "llynedd"

Amser

Ochr y Gors

3 milltir

Deiniol Thomas

13:07

Ro-Lwyd

6 milltir

Arwyn Jones

-

Glasgwm

3.8 milltir

Deiniol Thomas

18:43

Wybrnant

8 milltir

Dim ar gael (ras newydd)

-

Pen-y-Bryn

6.4 milltir

Deiniol Thomas

34:12


Ras Un: Ochr-y-Gors

"Rydym wedi newid y cwrs ychydig bach ers llynedd. Eleni byddwn yn rasio lawr ffordd Sarn. Mi fydd yn bwysig pwy sy'n cyrraedd cychwyn llwybr Sarn yn gyntaf oherwydd nid oes llawer o le i basio ar y llwybr.

"Mi 'roedd Deiniol braidd yn lwcus i ennill Ochr-y-Gors y flwyddyn ddiwethaf ond y flwyddyn yma mae fy mhres i i ennill y ras ar Arwyn Jones"

Arwyn Jones

Y flwyddyn ddiwethaf enillodd Deiniol y ras yma mewn amser o 13 munud a 7 eiliad. Gorffennodd Dylan 17 eiliad y tu ôl i Deiniol a 'roedd Stuart 27 eiliad y tu ôl i Deiniol. Hwn oedd y drydedd ras yn y bencampwriaeth ag ar ôl y ras yma 'roedd Deiniol hefo cyfanswm o 30 pwynt - y mwyaf posib. Ymgeisiodd 10 o bobl i orffen y ras; dim ond 9 orffennodd (Kenny yn tynnu allan). Gobeithiai Arwyn gael gwell lwc y tro yma gan iddo orffen yn bedwerydd y tro diwethaf.

Diddorol yw gweld rheolwr Emmelle Raleigh sef Eric Richards yn gorffen yn nawfed. Bydd ei brofiad yn y ras yma yn gymorth i'w dîm? Cawn weld. A diddorol yw gweld hefyd y tîm "Raleigh Inter Sport Wales" yn glir o'u gelynion yr amser yma flwyddyn ddiwethaf. A fydd yr un peth yn wir y tro yma?

Ras Dau: Rôl Lwyd

[Rôl Lwyd]

"Ie, mae'r cwrs enwog yma yn ôl ymhlith y cyrsiau eraill. Yr allt fawr i fyny at waelod Rôl Lwyd ydi un o'r elltoedd anoddaf yn y bencampwriaeth. Mi fydd o'n bwysig iawn pwy fydd yn cyrraedd y top yn gyntaf.

"Wel rydym i gyd yn cofio'r "sprint finish" rhwng Arwyn Jones a Dylan Griffiths ond tybed os fydd yna "sprint finish" y flwyddyn yma!"

Arwyn Jones

Fel mae Arwyn yn dweud, mae'r cwrs yma yn ôl ar ôl seibiant bach. Y tro diwethaf y cynhaliwyd y ras oedd yn 1993 pan enillodd Arwyn y ras ar ei ffordd i fod yn bencampwr. Nid oes unrhyw gofnod o'i amser yn anffodus.

Ym marn rai, Dylan yw'r ffefryn y tymor yma - ei allu i wneud y llethrau serth ymddangos yn wastad yn gymorth mawr iddo. Ond ni ellir anghofio am yr ymgeiswyr eraill a fydd yn siŵr yn dynn ar sodlau Dylan. Fel amryw o'r cyrsiau'r flwyddyn yma ni ellir rhagfynegi canlyniad y ras.

Ras Tri: Glasgwm

[Glasgwm]

"Hwn yw'r unig gwrs i fod yn rhan o'r rasus beics yn 1993, '94 a '95. Mae o'n gwrs hynod o boblogaidd. Ychydig o'r goedwig, ychydig o'r ffordd tarmac ac ychydig o ffyrdd brwnt iawn yn ymyl y Sarn. Arwyn Jones enillodd yn '93 a Deiniol Thomas yn '94. Tybed pwy wneith ennill y ras y flwyddyn yma?"

Arwyn Jones

Llynedd hwn oedd yr ail ras yn y bencampwriaeth ac fel y mwyafrif o'r rasus y flwyddyn ddiwethaf Deiniol enillodd (mewn amser o 18 munud 43 eiliad). Gorffennodd Arwyn funud a 38 eiliad y tu ôl i Deiniol. John orffennodd yn drydydd, 2 funud a 8 eiliad tu ôl i'r enillydd.

Dwy flynedd yn ôl Arwyn enillodd y ras. Mae o'n benderfynol o ennill y flwyddyn yma ac mae o'n hyderus iawn o wneud hyn, mae'n rhaid dweud.

Y flwyddyn yma mae'r ras yma yn agored ac mae llawer o bobl gyda siawns o ennill. Fel mae Arwyn wedi dweud mae llwybr y ras wedi newid ac felly dydi'r amseroedd uchod ddim yn helpu llawer i ragfynegi'r amseroedd y tymor yma. Un peth sy'n gadarn: ras gystadleuol iawn fydd hi ag ym marn rai ras agos iawn.

Ras Pedwar: Wybrnant

Cwrs hollol newydd am y tymor yma, person dewr iawn fuasai'n rhoi arian ar rywun i ennill y ras yma.

Cwrs hiraf y bencampwriaeth yw e, wyth milltir o hyd. Efallai na hwn yw'r cwrs fu'n penderfynu pwy fydd pencampwr flwyddyn yma. A fydd rhywun wedi cael digon o bwyntiau yn y fan hyn i ennill y bencampwriaeth? Y pedwerydd trac eleni, bydd yn bwysig iawn cael pwyntiau yma gan mai'r ras nesa' yw'r ras olaf a ras Pen-y-Bryn o ran hynny hefyd.

Diddorol yw gweld faint fu'n gorffen y ras yma. Mae'n siŵr tydi pawb ddim yn gwybod y cwrs yn llawn a fu rhai mae'n siŵr yn methu gorffen yr wyth milltir, yn tynnu allan cyn y diwedd. Mantais i Dylan Kennedy fydd hyn - mae o'n gwybod y cwrs yn dda iawn ac felly bu disgwyl iddo orffen yn uchel iawn yn y tabl canlyniadau, yn enillwr hyd yn oed? Ond rhaid cofio fod eraill wedi bod ar y cwrs, ac felly disgwylir ras agos iawn eto.

Ras Pump: Pen-y-Bryn

[Pen-y-Bryn]

"Hon dwy flynedd yn ôl oedd y ras fwyaf cofiadwy yn y bencampwriaeth. Nid yn unig oherwydd hon yw'r ras fwyaf cyffrous yn y bencampwriaeth, ond achos mi wnaeth Deiniol Thomas greu hanes: mi wnaeth o ennill y ras hon ar "racer" o flaen Arwyn Jones o tua rhyw bum munud. Ond rydw i'n meddwl mi fydd rhaid cael rhywbeth dipyn mwy na racer i ennill y ras eleni wrth weld pobl fel Arwyn Jones, Dylan Griffiths a Deiniol ei hun i gyd ar feiciau mynydd dros bymtheg ger."

Arwyn Jones

Oherwydd rhesymau gwahanol ni chafwyd y ras hon llynedd - piti mawr oherwydd hon yn siŵr yw'r ras i ennill. Dwy flynedd yn ôl enillodd Deiniol mewn amser o 34 munud a 11 eiliad, yn gamp fawr i feddwl na ar "racer" yr oedd o ar! Efallai na dyna oedd y ras mwyaf cofiadwy erioed, ond mae digon o gyfle'r tymor yma i gael tipyn o rasus tebyg, os nad mwy cyffrous a chofiadwy.

Cofiwyd y ras yma hefyd oherwydd yn y ras yma aeth Steffan a Gareth ar goll am amser maith... wedi cymryd y cwrs anghywir a gorfod treulio tipyn o amser yn myfyrio'n ôl at bawb arall. Mi fydd trefniant gwell ar bethau y tro yma!

 
  Map y safle / Site map | Cysylltwch â ni / Contact us