Hafan / Home | Siopau / Shops | Afon Machno | Seindorf Arian Machno | Maths | Beics | Lluniau / Pictures
 
     
 
Rasus Beics Penmachno 1995: Cyfweliad

Cysylltiadau

Prif Dudalen
Cystadleuwyr
Cyrsiau
Pwyntiau
Steil Bywyd
Cyfweliad
Cartŵn

Cyfweliad gydag Arwyn Jones

[Arwyn Jones]

Y flwyddyn ddiwethaf gorffennodd Arwyn yn drydydd yn y bencampwriaeth ar ôl tymor siomedig i'w safonau ef. Y flwyddyn yma mae o'n anelu at gael y fraint o orffen yn gyntaf a chael ei bencampwriaeth yn ôl ar ôl ennill yn 1993.

"Y flwyddyn ddiwethaf cefais dymor reit siomedig. Roeddwn yn gobeithio am orffen yn fwy uchel yn y diwedd ond yn ofer gorffen yn drydydd. Gobeithiais roi sialens cryf am y bencampwriaeth ond yn anffodus gyda Deiniol Thomas hefo beic mynydd 21 gêr a finnau ddim wedi dod i arfer a'm meic i 'roedd ennill y bencampwriaeth yn dasg fwy anodd na be oeddwn i'n ei feddwl"

Pan ofynnais am ba baratoadau y mae o wedi gwneud am y flwyddyn yma, dywedodd Arwyn ei fod wedi bod o amgylch llawer o gyrsiau'r rasus beic ac wedi gorffen mewn amseroedd parchus.

"Rwyf wedi bod o amgylch rai o'r cyrsiau gyda'm mhartner newydd sef Gareth Griffiths (a wnaeth gael tymor siomedig y tro diwethaf); mi fydd o yn fy marn i yn gobeithio am dymor gwell y tro yma. Rydym wedi cael rheolwr i'n tîm sef Eric Richards a wneith wneud gwaith da mae'n siŵr.

"Mae gan Gareth a finnau lawer o allu. Gobeithiwn drechu'r pencampwr a'r ffefrynnau. Mae gennym dasg anodd iawn o'n blaen ond mi fyddwn yn gobeithio gorffen y tymor fel pencampwyr unwaith eto"

Eleni mae Gareth ag Arwyn yn rasio efo'i gilydd yn nhîm Emmelle Raleigh ac yn amlwg maent hefo gobeithion uchel. Os fyddent yn trechu'r pencampwyr cryf sef Deiniol a Dylan byddent yn gwireddu breuddwyd a fydd yn ei barn hwy yn dod yn fyw.

 
  Map y safle / Site map | Cysylltwch â ni / Contact us