Hafan / Home | Siopau / Shops | Afon Machno | Seindorf Arian Machno | Maths | Beics | Lluniau / Pictures
 
     
 
Rasus Beics Penmachno 1995: Prif Dudalen

Cysylltiadau

Prif Dudalen
Cystadleuwyr
Cyrsiau
Pwyntiau
Steil Bywyd
Cyfweliad
Cartŵn

Rhagarweiniad

Hefo dros ddwsin o gystadleuwyr y flwyddyn yma, mae'r trydydd tymor o rasio beics ym Mhenmachno yn gaddo i fod yn dymor cyffrous iawn. Gyda Deiniol yn ceisio cadw ei bencampwriaeth ac eraill megis Dylan ac Arwyn yn ceisio cipio'r bencampwriaeth, mae'r tymor yn mynd i fod yn un cystadleuol dros ben. Mae llawer o gystadleuwyr newydd y flwyddyn yma, yn cynnwys rhai sydd ddim yn byw ym Mhenmachno a hyd yn oed rhai sy'n enethod! Mae'n siŵr o fod yn dymor eithriadol o dda a'r tebygrwydd ydi fydd yna sioc annisgwyl neu ddwy.

Hanes y rasus beics

Dechreuodd y traddodiad nawr o gynnal pencampwriaeth rasio beics yn haf 1993 pan enillodd Arwyn Jones y bencampwriaeth gan orffen o flaen Deiniol Thomas [a enillodd ras Pen-y-Bryn ar racer!] Enillodd Arwyn lawer o rasus yn cynnwys ras Glasgwm a ras Rôl Lwyd i ddod yn bencampwr cyntaf y rasus beic.

Y flwyddyn ddiwethaf, y bwriad oedd cynnal 10 ras - 5 trac dwywaith. Yn anffodus oherwydd rhesymau gwahanol cafwyd dim ond 4 ras [Time Trial, Ras Glasgwm, Ochr y Gors a Ras Machno]. Gyda beiciau newydd ymdrechodd Arwyn Jones a Deiniol Thomas i ennill y bencampwriaeth a Deiniol y tro yma cafodd y gorau ohoni, yn ennill gyda 39 pwynt. Hefo Dylan (a gafodd dymor llawn problemau mecanyddol), enillodd Deiniol hefyd bencampwriaeth y gwneuthurwyr, gyda'r tîm buddugol, Raleigh Inter Sport Wales, yn ennill gyda 74 o bwyntiau.

Y tymor yma y bwriad yw cynnal 5 ras (heb gynnwys y "Time Trial") ag ymysg y traciau mae un ras newydd, Ras Wybrnant. Hefyd mae Rasus Glasgwm, Ochr y Gors, Pen-y-Bryn a Glasgwm yn rhedeg am yr ail neu drydedd tro. Pwy fu'n ennill y rasus y flwyddyn yma? Cawn weld yn ystod gwyliau'r haf.

 
  Map y safle / Site map | Cysylltwch â ni / Contact us