|
Ail-gychwynnodd y band yn 1985, gydag aelodau newydd yn ymuno â rhai a fu'n chwarae ers amser maith. Gwelwch y band allan am y tro cyntaf yng Ngharnifal Penmachno yn y llun isod.
![[1985]](8.jpg)
1985
Yn ôl y 'Weekly News' o'r cyfnod, roedd 25 aelod i'r band a chwaraeodd y band y caneuon 'John Brown's Body' a 'Lest We Forget' wrth fynd trwy Benmachno.
![[Carnifal Capel Garmon, 1985]](9.jpg)
Carnifal Capel Garmon, 1985
Ar y diwrnod a ddangosir uchod, roedd y tywydd yn ffafriol ac felly roedd y band yn gallu chwarae allan ar gae chwarae'r ysgol. Ar adegau eraill mae'r band wedi gorfod mynd i mewn i guddio i neuadd yr ysgol oherwydd y tywydd, ac mae hyn yn wir o garnifal Penmachno hefyd - pan mae'n glawio ar ddiwrnod carnifal ym Mhenmachno, mae'r band yn gorfod mynd i chwythu yn Nhy'n Porth.
Gwisg y band ar yr adeg yma oedd (fel y gwelwch) crys gwyn a throwsus du.
![[Carnifal Penmachno, 1986]](10.jpg)
Carnifal Penmachno, 1986
Ar y diwrnod yma, roedd aelodau'r band wedi penderfynu chwarae tric ar yr arweinydd, Dilwyn Evans, gan eu bod wedi dewis gwisgo i fyny mewn gwisg ffansi.
Roedd Dilwyn yn aros am dan aelodau'r band yn ymyl yr ysgol ac yn methu dallt pam nad oedd neb wedi troi i fyny. Gofynnodd y pwyllgor carnifal i Dilwyn beth oedd wedi digwydd i'r band - ond doedd dim syniad gan Dilwyn. Ond wedi ychydig o funudau, daeth y band i lawr o'r ysgol mewn gwisg ffansi, a rhoi dipyn o sioc i Dilwyn! Wrth lwc roeddent wedi dod a gwisg ffansi i Dilwyn hefyd - felly doedd o ddim yn edrych rhy allan o'i le!
![[Carnifal Penmachno, 1986]](11.jpg)
Carnifal Penmachno, 1986
![[Carnifal Betws-y-Coed, 1986]](12.jpg)
Carnifal Betws-y-Coed, 1986
Dyma'r band yn Betws-y-Coed yn 1986. Fel rhan o garnifal Betws-y-Coed, roedd y band wedi marchio'r holl ffordd o'r orsaf i Pentre Du.
Erbyn hyn, roedd y band wedi bod yn ymarfer yn gyson ac wedi gwella eu perfformiad, ac felly yn ddigon da i fynd o gwmpas y pentrefi.
Yn ystod yr adeg yma, gwariodd y band gannoedd o bunnau ar adnewyddu'r offerynnau er mwyn iselhau cywair yr offerynnau.
![[Cwt y Band]](13.jpg)
Cwt y Band
Dyma lun o gwt ymarfer y band yn Swch, Cwm Penmachno. Prynwyd y cwt gan "Dei Dei" a oedd yn mynd o gwmpas i werthu glo, a chedwid ei lori yn y cwt yma. Gwerthwyd y cwt wedyn i Robert Lloyd ("Robin Lem"), ffarmwr rhan amser. Yn y 1950au tynnwyd y cwt i lawr ac adeiladwyd helm wair yn Blaen y Cwm gyda deunydd y cwt.
Ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf, roedd y band yn ymarfer yn y cytiau beudy yn bellach yn ôl na'r cwt - gellwch weld y cytiau hyn ar ochr dde'r llun.
![[1992]](14.jpg)
1992
Dolanog, Medi 16, 1992. Ar y diwrnod arbennig yma, roedd Ifor Jones yn dathlu ei ben-blwydd yn gant oed. Er mwyn dathlu hyn, aeth y band i chwarae iddo yn Llanrwst.
Cawsom groeso cynnes yn Nolanog ar y diwrnod - paned o de a chacen pen-blwydd!
![[Hel Straeon]](15.jpg)
Hel Straeon
Fel rhan o un o raglenni Hel Straeon S4C, bu'r band yn cael eu ffilmio yn chwarae yn yr ysgol yn ymarfer un noson.
Hanes chwareli Cwm Penmachno a modelau Dilwyn oedd cynnwys y rhaglen, ac mae'r band i'w glywed yn chwarae yn y cefndir yn ystod y rhaglen.
Mae'n rhaid diolch yn fawr i'r ysgol am gael lle i ymarfer ar hyd y blynyddoedd - mae hi'n gynnes iawn yno yn ystod y gaeaf!
![[Carnifal Penmachno 2001]](16.jpg)
2001
![[Ffair Haf Ysgol Penmachno, 2001]](17.jpg)
Ffair Haf Ysgol Penmachno, 2001
Dyma'r band yn Ffair Haf Ysgol Penmachno, 2001. Dyma'r tro cyntaf i'r band berfformio ar gae'r ysgol, a diwrnod braf iawn hefyd!
|