|
Mewn pob tebygolrwydd, cychwynnodd y Band o gwmpas 1830 yng Nghwm Penmachno. Ar y pryd roedd y chwareli yn gryf yn yr ardal ac yn darparu llawer o aelodau i'r band mae'n siŵr.
Ar un adeg roedd adeiladau yn Swch Cwm ac roedd yna un ystafell oedd rhwng siop y Co-op a stabl y Swch a ddaeth yn fan cyfarfod i ieuenctid y fro. Fe gymrodd y band yr ystafell drosodd, ac yno fuont yn ymarfer am flynyddoedd.
![[Llun cyntaf y Band yn 1902]](1.jpg)
Llyn cyntaf y Band yn 1902
Tad Richie Thomas sef Robert Thomas oedd arweinydd y band. Bu hefyd yn aelod o fand Llan Ffestiniog a chafodd gynnig ymuno a band y Black Dykes - ond arhosodd yn ei gynefin i arwain y band lleol.
![[1904]](2.jpg)
1904
Tynnwyd y llyn uchod ym mwlch y beudy, Cerrigydrudion. Mae'n rhaid nad oedd y tywydd yn ffafriol iawn gan fod gwisg y band yn drwm iawn. Dros y blynyddoedd, mae'r band wedi perfformio llawer o weithiau yn yr ardal yma.
Ar ddiwedd y diwrnod, roedd y band yn cael gwledd go iawn ar ôl perfformio trwy'r dydd - pawb yn mynd adref wedi cael llond bol o fwyd blasus.
![[1934]](3.jpg)
1934
Cafodd y llun uchod ei dynnu yn ystod carnifal Penmachno. Erbyn hyn roedd y band o dan arweiniad Richie Thomas, sef y tenor enwog o Benmachno.
Sylwch fod y carnifal yn cael ei gynnal yng nghae Ty'n Ddôl, sef cae Pêl-droed Machno Unedig heddiw.
Mae'r cyrn a welwch yn dal yn cael eu defnyddio hyd heddiw, heblaw am dan y cyrn alaw cyntaf a'r cyrn trombôn.
![[Pwyllgor y Band, tua 1938]](3b.jpg)
Pwyllgor y Band, tua 1938
Dyma lun o bwyllgor y Band tua 1938.
Rhes Gefn: Moi Ellis, Ifan Lloyd, Emlyn Davies, Tom Hughes.
Rhes Flaen: Cecil Jones, John Watkin Hughes.
![[1940]](4.jpg)
1940
Erbyn 1940, gyda'r band dal o dan arweiniad Richie Thomas, roedd y band yn gallu edrych yn ôl ar ddeg mlynedd eithaf llwyddiannus - roedd y band wedi ennill llawer o gystadlaethau mewn Eisteddfodau.
Hefyd yn y 1930au bu'r band o dan arweiniad William Thomas am gyfnod byr.
![[1948]](5.jpg)
1948
Gwelwch yn awr y band ar fore Nadolig 1948. Roedd arferiad gan y band o fynd o amgylch Cwm Penmachno bob bore Nadolig i gasglu arian tuag at gostau'r band. Roedd y daith o Rhyd-y-gro i'r Teras yn un digon anodd - diolch byth am y wobr o ginio Nadolig ar ddiwedd y daith!
Dyma'r flwyddyn ymunodd Dilwyn â'r band.
![[1952]](6.jpg)
1952
Y Band yn 1952 y tu allan i weithdy Richard Williams (Llew Bach) yn ffordd Cwm, Penmachno. Ar y safle yma adeiladwyd tŷ Geraint Thomas yn y 1980au.
Rhes Gefn: Huw Rees Evans, Robin Jack, Emyr Evans, Tom Ellis, Richie Thomas, Jack Hughes.
Rhes Flaen: ?, Dewi Jones, David Roberts, Arthur Wyn, Ednyfed Thomas.
Pan dynnwyd y llun yma, nid oedd Dilwyn yn aelod o'r band - yr oedd yn y fyddin yn gwneud ei ddyletswydd dros ei wlad!
![[1966]](7.jpg)
1966
Diwrnod carnifal ym Mhenmachno yn 1966. Erbyn hyn roedd y band o dan ofal y Lleng Prydeinig (British Legion), ac roedd Dilwyn yn arwain y band yn gyhoeddus am y tro cyntaf ar y diwrnod yma.
Yn rhan oherwydd sefydlu'r band, enillodd cangen Penmachno'r Lleng Prydeinig dair cwpan yn ystod y cyfnod yma, yn cynnwys cwpan bwysig Cymru.
Sylwch fod y tai sy'n sefyll heddiw ar ochr dde'r ffordd yn absennol o'r llun.
Cyn symud ymlaen i edrych ar hanes y band o'r 1980au ymlaen, dyma hanes digrif un o aelodau'r band....
Un tro, roedd cystadlaethau bandiau i'w cynnal yn Warrington a dyma un aelod o Fand Penmachno ac un aelod o Fand Llan Ffestiniog gychwyn ben bore Sadwrn ar y trên i Fanceinion ac wedyn i Warrington. Wedi holi hwn a'r llall, cafwyd o hyd i'r neuadd, ond edrychai'n ddifywyd iawn yno. Aethom i'r ystafell docynnau a gofyn i'r wraig oedd yno am docynnau i'r neuadd a dyma hi'n edrych yn syn a dweud nad oedd y gystadleuaeth i'w chynnal tan drannoeth. Bu'n rhaid troi am adref a'u cynffonnau rhwng eu coesau.
Cofnodwyd y digwyddiad yma fel hyn ym mhapur bro "Yr Odyn".
"Adroddaf i chwi hanes
Go ryfedd daeth i'm clyw
Am ddau ddilynwr bandiau
Sy'n Nyffryn Conwy'n byw;
I Ogledd Lloegr aethon
Ar drywydd bandiau pres
Oedd yno yn cystadlu
Am wobrau yn y gwres.
'Rôl teithio fore Sadwrn
Cyrhaeddwyd yna'n iawn
Gan ddisgwyl byddai'r neuadd
O leia'n hanner llawn;
Ond distaw a di-utgan
Oedd neuadd fawr y dref,
"Dydd Sul yw dydd yr ornest"
Medd gwraig tocynnau'r lle.
Yn ôl i Ddyffryn Conwy
A'r dagrau'n powlio'i lawr
Y teithiodd y ddau gyfaill
Heb brofi'r ornest fawr;
Wrth gofio y gwahaniaeth
Rhwng ceffyl gwedd a mul,
Ni wnânt anghofio eto
Nad Sadwrn yw dydd Sul.
|