Tarddiad
Rhan 1
Rhan 2
Chwareli
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3
Cwm Penmachno
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3
Rhan 4
Penmachno
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3
|
O hyn ymlaen, mae'r afon yn llifo'n gyflym tuag at ei ddiweddglo. Y mae llawer o nentydd, rhai yn ddienw, wedi uno â'r afon erbyn hyn, ac mae lefel y dŵr wedi codi.
Gwelwch Bont Benar ar ôl noson stormus. Nid hon oedd y bont gyntaf, gellir gweld darn o'r bont gyntaf ar y chwith o'r llun. Ar un adeg roedd Benar yn le da i bysgota. |
Pont Benar |
Tuag at y Ffatri |
Mae'r afon nawr yn tynnu tuag at y Ffatri Wlân. Yn y fan yma mae rhaeadr fach lle mae dŵr yn rhedeg yn gyflym iawn yng nghanol yr afon. Lle ddigon peryg os gewch godwm i mewn! |
Yn y fan yma ar lan yr afon gwelwch y dull i agor y dŵr o'r afon a'i anfon i lawr at yr olwyn fawr a oedd yn troi'r felin. Mae'n siŵr na phennaeth y felin oedd yn rheoli'r teclyn yma. |
Olwyn y Felin |
Ffatri Wlân |
Golygfa o'r Ffatri Wlân. Ar un adeg, roedd degau o bobl yn gweithio yma, gan gynnwys y tenor enwog Richie Thomas a weithiodd yma ar hyd ei oes. |
Yn ymyl y Ffatri Wlân ar yr hen ffordd sydd yn arwain am Fetws-y-Coed mae Pont y Pandy. Mae ffordd y Pandy yn igam-ogam ac yn hawdd iawn i gael damwain arni hi. Ar y ffordd gallwch weld cip olwg ar Raeadr Conwy. |
Pont y Pandy |
Bont Rhufeinig |
Y bont olaf ar Afon Machno cyn uno â'r Afon Gonwy. Adeiladwyd y bont yn y 17eg ganrif. Nid oes modd croesi'r bont heddiw gan fod canol y bont braidd yn wan. |
Enw arall ar y Bont Rhufeinig yw "Pont Rhyd y Gynnen". Mae aml i ymwelydd yn dod yma i weld y bont ar ôl bod yn y Ffatri Wlân. Mae'n siŵr na hon yw'r bont hynaf ar yr Afon Fachno. |
Pont Rhyd y Gynnen |
Yn Nes at y Diwedd... |
Darn olaf o'r Afon Machno cyn uno â'r Afon Gonwy. Mae'r afon yn agosáu at ddiwedd ei thaith mewn lle sy'n beryg iawn gan fod yr afon bron yn mynd o'r golwg o dan y ddaear. |
Dyma'r safle lle mae'r Afon Fachno yn uno gyda'r Afon Gonwy. Mae'r rhan olaf o'r afon yn cael ei hadnabod gan rai fel y "Grand Canyon". Golygfa hyfryd sydd yn y fan yma os mentrwch i lawr o'r ffordd. |
Uno â'r Afon Gonwy |
Gobeithio eich bod wedi mwynhau'r tudalennau hyn. Rydym wedi bod ar daith hir a chawsom weld golygfeydd o'r afonydd o gwmpas ein pentrefi. Os rydych yn bwriadu mynd ar y daith yma eich hunain, gofalwch eich bod yn gwisgo'r dillad a'r esgidiau priodol.
Dilwyn Evans, 2001
|