Tarddiad
Rhan 1
Rhan 2
Chwareli
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3
Cwm Penmachno
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3
Rhan 4
Penmachno
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3
|
Penmachno: Pentref Enwog Nodedig Machno, Awyrgylch Chwerw Nid Oes
Ar ddiwrnod oer o aeaf, dyma Bont Penmachno wedi ei orchuddio ag eira yn y flwyddyn 2000. Mae carreg enwog ar ganol y bont gydag englyn gan Sion Owen wedi ei gerfio arno. |
Pont Penmachno |
Pont Penmachno |
Pont Penmachno wedi ei dynnu o'r awyr. Bu Pont arall ar yr afon yn y gorffennol - ysgubwyd y bont gyntaf gan lif bythgofiadwy yn y flwyddyn 1779, ar yr ugeinfed o Fehefin, sef dydd o flaen ffair Llanrwst. Ar yr adeg roedd lliaws o bobl o Sir Feirionydd yn mynd i'r ffair gyda phynnau o wlân i'w werthu. Bu raid iddynt aros ym Mhenmachno oherwydd y mellt a'r glaw trwm, a rhoi eu ceffylau yn y stablau. Lladdwyd chwech o'r ceffylau gan y mellt. |
Roedd rhaeadr yn nes i lawr na'r bont ar un adeg, ond yn y 1960au fe'i chwalwyd gan lifogydd anarferol. Roedd hyn yn fendith i'r tai o amgylch gan na fyddai'r afon yn gorlifo i'w tai fel o'r blaen. Cafodd y rhaeadr ei chodi i droi'r dŵr i ffoes y Felin, er mwyn i'r felin gael cyflenwad dŵr i droi'r olwyn yno. |
Rhaeadr Gro Mawr |
Pistyll o Afon Glasgwm |
Dyma'r man lle mae Afon Glasgwm yn cychwyn. Dydi'r tarddiad ddim yn bell iawn o Wybrnant yng nghanol diffeithwch mawr y goedwig. |
Ychydig o lathenni o'r pistyll bach, yn ganol y goedwig, gwelwch y ffoes sydd yn cychwyn Afon Glasgwm. Troellir y ffos i lawr ochr y mynydd. |
Yn y Goedwig |
Trawsnewidiad |
Nes i lawr y mynydd mae'r ffoes yn newid i edrych yn fwy fel afon. Tair milltir yn unig yw hyd yr afon, o'i tharddiad i'w diwedd. |
Pistyll bach arall, ar ochr uchaf yr afon, yn rhedeg i lawr i uno gyda'r afon. Carreg las yw gwely'r afon yn y rhan fwyaf o'i chwrs - tybed a oes deunydd llechi yma?! |
Pistyll Arall |
Nant Ro-Lwyd |
Nant Ro-Lwyd yn uno gydag Afon Glasgwm. Digon prin yw'r pysgod yn yr afon, ac fel hyn bu hi erioed oherwydd ansawdd yr afon ei hun. |
Ar un adeg roedd hon yn ffarm fach yn cadw ychydig o wartheg. Heddiw mae yn dy haf, ei safle yn ymyl Afon Glasgwm a'r goedwig yn ei amgylchynu. |
Bwthyn Bach Llugallt |
Pont Dolgochyn |
Yn is i lawr na Phont Dolgochyn yr oedd melin goed ers talwm. Yn ystod y storm fawr yn 1779 aeth y felin i lawr efo'r lli. |
Nes i lawr yr afon mae Pont Rectory. Hon yw'r bont sydd yn ffurfio rhan o'r daith i Dy Mawr Wybrnant, lle y ganwyd William Morgan, cyfieithwr cyntaf y Beibl i'r Gymraeg yn y flwyddyn 1588. |
Pont Rectory |
Pont Ceunant |
Ochr isaf i'r bont. Mae coed wedi disgyn i mewn i'r afon yn y fan hyn, ar ôl noson o storm. Mae'n siŵr fod aml i goeden wedi disgyn o gwmpas y bont. |
Hon yw'r bont olaf ar yr Afon Glasgwm, y bont fwyaf newydd ym Mhenmachno ar hyn o bryd - roedd yr hen bont wedi mynd yn rhu gul i foduron modern. Mae'r bont yn arwain at y cae pêl-droed. |
Pont Ty'n-y-Ddôl |
Golygfa'r Dyffryn |
Cyn gadael Afon Glasgwm, cawn gip olwg o'r dyffryn. Ar adegau mae ralïau ceir yn taranu o gwmpas y mynyddoedd, gan gynnwys rali'r RAC. |
Yn y fan yma yn waelod y cae chwarae mae'r Afon Glasgwm yn uno gydag Afon Machno. Yn Betws-y-Coed maent yn dweud "The meeting of the two rivers" ac yn gwneud ffws mawr - dyma fersiwn Penmachno o hyn! |
Uno'r Afonydd |
Yr ydym yn awr bron a dod i ben ein taith, wedi cyrraedd lle mae'r Machno a'r Glasgwm yn uno. Ar y dudalen olaf fe awn ymlaen i'r Ffatri Wlân a gweld lle mae'r Afon Machno yn diweddu.
|