Hafan / Home | Siopau / Shops | Afon Machno | Seindorf Arian Machno | Maths | Beics | Lluniau / Pictures
 
     
 
Afon Machno: Penmachno, Rhan 1
Tarddiad
Rhan 1
Rhan 2

Chwareli
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3

Cwm Penmachno
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3
Rhan 4

Penmachno
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3

Ar ein taith i lawr yr afon, dilynwn y ffordd gul a phasio'r ffermydd canlynol: Ffarm Bryn Eidal, Ffarm Pen Bedw a Ffarm Pen-y-Bont.

Golygfa o'r dyffryn o ochr isaf Pont Rhyd-y-Gro, a'r afon yn mynd yn ei flaen i lawr i Benmachno.
[Golygfa o Bont Rhyd-y-Gro]
Golygfa o Bont Rhyd-y-Gro

[Ffarm Pen Bedw]
Ffarm Pen Bedw

Wrth drafaelio i lawr yr afon, cawn weld Ffarm Pen Bedw yn y cefndir. Yn ôl hanes y plwyf yn Llyfr Gethin, roedd y Rhufeiniaid wedi bod yma yn turio - yn edrych am blwm mae'n debygol.

Yn y flwyddyn 1815, agorwyd Chwarel Pen Bedw ond byr fu ei hoes - y graig yn rhy galed.


Gwelwch yn y cefndir Pont Pen Bedw sydd yn arwain at Fferm Pen Bedw. Pan wnaethpwyd y ffilm "Will 6" yn y plwyf, buont yma yn ffilmio'r plant yn chwarae, ac un ohonynt yn disgyn i mewn i'r afon.
[Pont Pen Bedw]
Pont Pen Bedw

[Ffarm Pen-y-Bont]
Ffarm Pen-y-Bont
Mae hen feudy mawr Pen-y-Bont wedi bod yn dy Annedd ac yn feudy ar yr un amser yn y gorffennol, pan oedd llawer o'r ffermwyr yn byw dan yr un gronglwyd a'r anifeiliaid, yn cysgu'r nos yn y daflod.

Pont wedi ei hadeiladu o goed yw Pont Oernant, gyda'r llwybr yn mynd am Gae Gwyn a Hafod Dwyryd. Mae Pont Oernant yn cael ei ddefnyddio fel Pwll Nofio yn ystod dyddiau poeth yr haf.
[Pont Oernant]
Pont Oernant

[Uno]
Uno
Dyma'r safle wrth Bont Oernant lle mae Afon Ceunant Bryn Crug yn uno gydag Afon Machno. Sylwch ar sut mae'r afon yn llawer lletach yn fan hyn o'i gymharu â'r afon yng Nghwm Penmachno.

Cewch fynd ymlaen dros y bont yma unai i Bont Oernant neu yn ôl am Hafod Dwyryd ac wedyn i lawr i'r Sarn. Pont o goed fel y gwelwch.
[Pont Cae Gwyn]
Pont Cae Gwyn

[Pistyll Ceunant Bryn Crug]
Pistyll Ceunant Bryn Crug
Mae golygfa hardd i'w gael uwchlaw'r bont goed, fel y gwelwch yn y ceunant bach yma. Ond byddwch yn barod i fentro trwy'r coed er mwyn cyrraedd yma!

Gallwch groesi'r afon yn hwylus yn y fan yma - ond nid yn ystod llif mawr wrth gwrs! Nid y rhain yw'r cerrig gwreiddiol - mae rhai newydd wedi dod yn lle'r hen gerrig a oedd yn rhy fas i ddyfnder yr afon.
[Sarn]
Sarn

Yn awr yr ydym wedi cyrraedd pentref bach Penmachno. Pentref wedi cael ei gynnal gan y chwareli a'r ffatri wlân, ar un amser bu Penmachno yn gartref i dros 1,700 o bobl (yn 1871). Ers hynny mae'r ffigwr wedi lleihau bron bob cyfrifiad i'r ffigwr o 631 yn 1991.

 
  Map y safle / Site map | Cysylltwch â ni / Contact us