Tarddiad
Rhan 1
Rhan 2
Chwareli
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3
Cwm Penmachno
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3
Rhan 4
Penmachno
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3
|
Rydym nawr wedi cyrraedd hanner ffordd i lawr yr Afon Fachno, ond cyn mynd ymlaen awn am dro bach i fyny'r mynydd i weld Llyn Conwy cyn dychwelyd i orffen edrych ar gwrs yr afon trwy Gwm Penmachno.
Heddiw mae cartrefi Dyffryn Conwy yn cael dŵr glân i'w cartrefi o'r llyn yma. Wedi ei leoli 2,000 o droedfeddi uwchlaw lefel y môr ar dop Foel-Ddu, Pen Bedw, mae'r llyn yn dair milltir o'i gwmpas, ac y mae yna ynys o fewn 150 llath iddo. Mae'n rhaid i'r dŵr drafaelio yn agos i bymtheg milltir ar hugain cyn cyrraedd y môr. Mae saith ffynnon yn y llyn i gyd. |
Llyn Conwy |
Llosgfynydd |
Dywed traddodiad fod Mynydd Carrog mewn un oes wedi bod yn llosgfynydd. Efallai fod y creigiau o gwmpas Beniarth yn cadarnhau fod hyn wedi digwydd? |
Gwelwch yn awr Stryd Beniarth, Cwm Penmachno. Eto lle digon prysur oedd hwn, lle'r oedd tafarn o'r enw "Beniarth Arms". Cadwyd siop gan John Roberts, a rhedai Pugh Jones a'i fab John fusnes yn trwsio ceir, gwerthu petrol a llogi tacsis. |
Stryd Beniarth |
Stryd Beniarth |
Beniarth eto, a'r creigiau mawr o amgylch ym mhob man. Safai Beniarth ychydig o lathenni o lan yr afon. Mae'n siwr ar noson stormus fod y trigolion yn clywed swn yr afon yn taranu. |
Cawn seibiant i gael golwg mwy manwl ar y creigiau ar y mynydd. A chwythwyd y creigiau hyn allan o losgfynydd? Dywedai eraill fod y Rhufeiniad wedi dod yma a bod y Cymry wedi taflu'r cerrig yma ar ben y Rhufeiniaid o ben y mynydd! Dalwyd y Rhufeiniaid yn "Bryn Dal" sydd nawr yn cael ei alw yn "Bryn Eidal". |
Creigiau'r Mynydd |
Llyn Robert William |
Ar yr afon oddi tan Beniarth, y mae llyn o'r enw "Llyn Robert William". Yma yn y llyn roedd plant Cwm yn ymdrochi yn yr haf, ac ambell i weithiwr y chwarel yn ymolchi yn y llyn ar ôl diwrnod o waith. |
Ychydig i lawr yr afon cawn gip olwg ar Ffarm Llechwedd Hafod. Mae hon yn ffarm brysur iawn. |
Llechwedd Hafod |
Pont Rhyd y Gro |
Mae'r afon yn awr wedi cyrraedd Pont Rhyd-y-Gro. Yn ymyl y bont, mae ffordd yn mynd i fyny i Ben Bedw sy'n cynnwys digon o goed cnau - bu aml i berson o Cwm yn cerdded yno i nôl byrbryd bach i fwyta! |
Dyma ran olaf yr afon yng Nghwm. Awn ymlaen yn awr ar hyd Afon Machno i gael golwg ar y pontydd ym Mhenmachno a'r cyffiniau.
|