Tarddiad
Rhan 1
Rhan 2
Chwareli
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3
Cwm Penmachno
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3
Rhan 4
Penmachno
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3
|
Tybed pa adeilad caeth ei hadeiladu gyntaf yng Nghwm Penmachno? A pam dewis y lle yma i godi pentref? Mae'n siŵr fod lleoliad yr afon wedi penderfynu lleoliad y pentref, gan fod llawer o ddefnydd i'r afon ers talwm. Er enghraifft, tybed os oedd pobl yn golchi eu dillad yn yr afon ers talwm?
Bron ar lan yr afon mae Stryd Dyfnant. Pan oeddwn yn blentyn yn Cwm, wrth fynd trwy'r stryd, roedd yn rhaid bihafio gan fod rheolwr y chwarel ac athrawes yr ysgol (Miss Morfydd Jones) yn byw yma. |
Dyfnant |
Pont Rhyd-y-Meirch |
Yn awr, daliwn i fyny gyda'r afon wrth ymyl Bont Rhyd-y-Meirch. Mae'r dŵr yn llawer mwy llonydd yma gan fod y tir yn fwy gwastad, ac mae lefel y dŵr wedi iselhau gan fod yr afon wedi lledu.
|
Yn 1898, adeiladwyd y trydydd Capel ar safle Rhyd-y-Meirch. Gwelwch yr adeilad hardd presennol, a adeiladwyd am y gost o £2,658. Erbyn 1917 roedd pob dimau wedi ei dalu. |
Capel Rhyd-y-Meirch |
Roedd Rhyd-y-Meirch yn enwog yn ystod y dauddegau a'r tridegau yn y ganrif ddiwethaf am berfformiadau o oratorios uchelgeisiol yn flynyddol gan aelodau'r capel ac aelodau Capel Shiloh. Gwelwyd cantorion adnabyddus yn dod o bob cwr o Gymru i gymryd rhan yn yr oratorios. Gwelodd Rhyd-y-Meirch dri ar ddeg o berfformiadau o oratorios rhwng 1901 a 1913.
![[Parti Rhyd-y-Meirch]](63party.jpg)
Parti Rhyd-y-Meirch yn cyflwyno drama "Gobaith y Byd"
Pont y Foel, o bell |
Fel y gallwch ddyfalu o'i henw, mae Pont y Foel yn croesi'r Afon Foel. Ai'r afon yn ei flaen wedyn ac ymuno fel y gwelwch gyda'r Afon Fachno. |
Pont y Foel, o agos |
Ar aml i nos Sul, byddai criw ohonom yn hel at ein gilydd ar y bont i gael sgwrs. Pont garreg yw'r bont, fel llawer o'r pontydd o'n cwmpas. Yn yr oes fodern, mae'r rhan fwyaf o bontydd newydd wedi eu gwneud allan o haearn a choncrit. Mae'n siŵr ei bod hi'n grefft adeiladu pont garreg fel yma. |
Gwelwch Afon Foel yn cychwyn ar ei thaith i lawr ceunant gan lifo yn gyflym. Roedd digon o goed llys ar ochr Afon Foel, ac roedd cacen llys o'r ardal yma yn flasus iawn. Yn gyfagos roedd tŷ Cipar Conwy. |
Afon Foel |
Pont Cae Drain |
Dyma bont arall ar Afon y Foel, Hen Bont y Foel neu Bont Cae Drain fel y gelwid. Yn 1825, agorwyd Chwarel y Foel a defnyddiwyd y bont yma i ddod a cherrig i lawr y mynydd ar hyd yr inclên. Tybed a dyma'r adeg a adeiladwyd y bont? |
Pont yw hon wedi ei hadeiladu o goncrit, ddim o garreg fel y rhan helaeth o bontydd yr ardal. Mae'r bont yn edrych braidd allan o'i le i'w gymharu â'i amgylchedd. |
Pont Comisiwn y Coedwigaeth |
Hen Bont y Foel
Hen Bont y Foel, Llun 1 |
Hen Bont y Foel, Llun 2 |
Lluniau o Hen Bont y Foel wedi eu tynnu o'r afon.
Carrog |
Dyma'r fan lle fedrwch fynd yn eich blaen am Ffestiniog ac i lawr am y De. Rwyf wedi meddwl weithiau wrth edrych ar fap o'r ffordd faint o bobl sydd wedi dod yma i weld sut le ydi Carrog ac wedi eu siomi gan mai dim ond stryd sydd yma! |
Dolydd Carrog
Dolydd Carrog, Llun 1 |
Dolydd Carrog, Llun 2 |
Gwelwch yn awr luniau o Ddolydd Carrog. Dywed traddodiad fod yma frwydr galed wedi ei hymladd gan Ifan, a bod gelynion, wrth ddringo'r allt yn frysiog, yn erbyn y saethyddion uchaf oedd yn y ffosydd, wedi mynd allan o wynt a bod Ifan a'i filwyr wedi rhuthro arnynt yn sydyn o'r gwaelod cyn iddynt gyrraedd i mewn i'r amddiffynfa.
Mae pentref Cwm Penmachno heddiw yn cael ei ddŵr tap o Lyn Conwy. Ar un adeg roedd y dŵr tap yn dod o ffynnon fach ar fynydd Foel. Awn nawr i gael cip olwg ar Lyn Conwy.
|