Hafan / Home | Siopau / Shops | Afon Machno | Seindorf Arian Machno | Maths | Beics | Lluniau / Pictures
 
     
 
Afon Machno: Cwm Penmachno, Rhan 2
Tarddiad
Rhan 1
Rhan 2

Chwareli
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3

Cwm Penmachno
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3
Rhan 4

Penmachno
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3

Byddaf yn meddwl weithiau sut mae'r dŵr yn llifo o'r Cwm yr holl ffordd i lawr i'r môr yng Nghonwy. Pan mae dŵr glaw yn cronni i mewn i Dwll y Cwm, mae'n pasio pentrefi Cwm Penmachno, Penmachno, Betws-y-Coed, Llanrwst, Trefriw, Dolgarrog, Tal-y-Cafn, Glan Conwy ac yn gorffen yng Nghonwy ac yn llifo i mewn i'r Iwerydd.

Ceunant Hafod Fraith

[Ceunant Hafod Fraith]
Ceunant Hafod Fraith
[Gwaelod Ceunant Hafod Fraith]
Gwaelod Ceunant Hafod Fraith

Nid oes gobaith gweld y ceunant o'r fan yma - mae'r coed yn cuddio'r ceunant i gyd.

Ar Gopa Moel Llechwedd Hafod mae llyn o'r enw Llyn Tomla, sydd yn agos i dop Ceunant Hafod Fraith. Llyn yn ganol y diffeithwch, does neb yn mynd yn agos i'r llyn yn aml.
[Llyn Tomla]
Llyn Tomla

[Llethrau]
Llethrau
Wrth gerdded i lawr rhwng y llethrau, cofiwn ar un adeg fod corlan defaid ar ochr y ffos, er mwyn i'r defaid gynefino dros nos. Hen le digon peryg yw hwn.

Wrth gerdded i lawr y mynydd, mae'n bosib cael cip olwg ar Gwm Penmachno. Gwelwch Chwarel Rhiw Fachno, a hefyd Blaen y Cwm, Rhos Goch a Swch. Wrth gerdded ymlaen, mae'r llawr o dan ein traed yn mynd yn fwy creigiog, ac mae graddiant y mynydd yn mynd yn fwy serth. Mae'r ceunant yn llifo i lawr yn ffyrnig iawn yma.
[Yr Olygfa o'r Llethrau]
Yr Olygfa o'r Llethrau

[Uno]
Uno
Yn y fan yma yn Dyfnant, mae Ceunant Hafod Fraith yn uno gydag Afon Machno. Ar lan yr afon roedd cwt y cigydd. Hefyd ar y cae bu Cwm yn cynnal carnifal bod hyn a hyn.

Bron ar lan yr Afon Machno y lleolir Capel Shiloh. Yn 1987, caewyd drysau'r capel am y tro olaf, a diwedd ar Gapel Wesla yn y Cwm - ond yn y flwyddyn 2001, agorwyd y drysau eto fel canolfan gymdeithasol i bobl y Cwm.
[Capel Shiloh]
Capel Shiloh

[Sasiwn Pregethu]
Sasiwn Pregethu
Dyma ddarlun o'r merched a oedd yn gwneud bwyd ar wŷl sasiwn yng Nghwm Penmachno.

Gwelwch lun o'r Organ a oedd tu mewn i Gapel Shiloh pan oedd y Capel yn ei ogoniant.

David Cecil Jones oedd wrth yr organ am gyfnod hir. Hefyd bu Iorweth Jones, Ifan Lloyd ac Emlyn Davies yn chwarae'r organ yn y Capel ar wahanol adegau. Pan oeddwn yn blentyn ifanc yn y Capel, yn fy nhro roeddwn yn mynd tu ôl i'r Organ i chwythu megin yr Organ. Roedd hyn yn y cyfnod cyn i drydan ddod i Cwm.

[Organ Capel Shiloh]
Organ Capel Shiloh

[Y Ganolfan Gymdeithasol]
Y Ganolfan Gymdeithasol

Tu allan i'r ganolfan gymdeithasol ar ddiwrnod agor y ganolfan.

Hwn oedd Capel Shiloh gynt.


Llun o un ystafell tu mewn i'r ganolfan. Mae llawer o gyfrifiaduron tu mewn i'r ganolfan, ystafell chwaraeon ac ystafell fwyta.
[Tu Mewn i'r Ganolfan]
Tu Mewn i'r Ganolfan

Yn awr, awn yn ein blaenau gan ddilyn yr afon i lawr heibio Dyfnant, Pont Rhyd-y-Meirch ac i Ddolydd Carrog. Cawn ychydig o hanes digwyddiadau ar y Dolydd.

 
  Map y safle / Site map | Cysylltwch â ni / Contact us