Hafan / Home | Siopau / Shops | Afon Machno | Seindorf Arian Machno | Maths | Beics | Lluniau / Pictures
 
     
 
Afon Machno: Cwm Penmachno, Rhan 1
Tarddiad
Rhan 1
Rhan 2

Chwareli
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3

Cwm Penmachno
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3
Rhan 4

Penmachno
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3

Ers talwm, roedd llawer o bysgod yn yr Afon Fachno. Roedd angen trwydded i bysgota yn yr afon, ond roedd rhai yn mentro pysgota efo'i dwylo a dal aml i bysgodyn da.

Awn yn ôl i Afon Machno. Pan fyddwch yn cerdded i lawr Stryd Rhiwbach a Machno, fe fyddwch yn cyfarfod Pont Selar. Awn dros y bont sydd yn mynd a ni i Blaen y Cwm; i fyny'r llwybr cul cerddwn ymlaen a dod i lawr wrth Stryd y Ddôl.
[Pont Selar]
Pont Selar

Mae aml i un wedi trafaelio dros Bont Selar gan fod Ffarm yn Blaen y Cwm a oedd yn gwerthu llefrith - roedd yn rhaid ei nôl mewn piser gyda'r nos.
[Pont Selar]
Pont Selar

[Pont Swch]
Pont Swch
Gwelwch yn awr Bont Swch. Roedd y crydd yn cadw siop yn Ddôl, a byddai yn dod a'r lledr oedd ganddo i drwsio esgidiau a'i fwydo dros nos yn yr afon yn y lle hwn. Byddai yn rhoi cerrig mawr arno i'w gadw i lawr yn y dŵr. Hefyd yr oedd yn le peryg oherwydd yn ymyl y bont roedd allt Swch - byddem yn aml yn dod i lawr yr allt ar ein beics a glanio yn yr afon - nid oedd ffens o gwmpas y tro o gwbl.

Swch fel ac y mae heddiw. Lle prysur iawn ers talwm, fel cewch weld yn y llun isod.
[Swch]
Swch

[Chwarel Swch]
Chwarel Swch
Gallwch feddwl lle mor brysur oedd Swch ers talwm. Agorwyd Co-op cyntaf y Cwm yn hen swyddfa'r chwarel. Hefyd roedd y band yn ymarfer yma. Wedi i Chwarel Swch gau, ar y bonc byddai plant Cwm yn chwarae gyda'r nos, gydag aml i gêm o Griced a Phêl-droed.

Dyma'r llun sydd yn cadarnhau fod Afon Penrhiw yn uno gydag Afon Machno, gyda'r afon yn llifo allan o dan y domen.
[Uno Afonydd]
Uno Afonydd

[Domen Swch]
Domen Swch
Llun arall o domennydd Swch, lle mae Afon Penrhiw yn uno gydag Afon Machno.

Mae'r stryd yma yng nghanol Cwm Penmachno - nid ydi yn perthyn i'r top nac i'r gwaelod. Bu helynt yn aml wrth rannu Cwm yn ddau ar gyfer eisteddfodau a phel-droed - pwy oedd Ddôl yn perthyn i? Bu yn mynd i'r top weithiau ac i'r gwaelod ar adegau eraill.

Hefyd yn Ddôl Swch roedd yna un ystafell rhwng Siop y Co-op a stabl y Swch a ddaeth yn le cyfarfod i ieuenctid y fro. Dechreuwyd chwarae dartiau - cystadlaethau rhwng gwahanol dimau o'r Cwm a'r Llan, ac andros o gamp oedd cyrraedd y rownd derfynol. Roedd wedi mynd mor boblogaidd fel roedd rhaid rhoi cystadlaethau chwarae dartiau yn eisteddfod y chwarel. Roedd gyrfa whist yno hefyd, er mor fach oedd yr ystafell. Wedi hynny, cymerodd y band y lle trosodd, ac yno buont yn ymarfer am flynyddoedd - a Thad Richie Thomas yn rhoi oriau o'i lafur yn dysgu'r band.

[Stryd Ddôl Cwm]
Stryd Ddôl Cwm

[Ysgol Cwm Penmachno]
Ysgol Cwm Penmachno
Adeiladwyd yr ysgol yma yn 1922. Cyn hyn, roedd y plant yn cael eu haddysg yn yr Eglwys. Pan aeth yr Eglwys yn rhy fach i ddal y plant (dros 100 ohonynt), aeth y plant ar streic am 9 mis er mwyn adeiladu'r ysgol a welwch ar y chwith. Caewyd yr ysgol yn 1964 (Morfydd Jones oedd y brifathrawes ddiwethaf yno.)

Rydym wedi cyrraedd Pont Isa sydd yn ymyl yr Eglwys. Roedd ysgol gyntaf Cwm yn yr Eglwys yma. Cewch hefyd gip olwg ar Siop Isa yn y llun, ac yma hefyd roedd siop gigydd.
[Pont Isa]
Pont Isa

[Plant Ysgol Eglwys Cwm]
Plant Ysgol Eglwys Cwm Penmachno, tua 1904

[Pont Isa]
Pont Isa
Gwelwch yn awr olwg ar Bont Isa, wedi ei dynnu o dir yr Eglwys, lle mae Afon Ceunant Hafod Fraith yn rhedeg o dan y bont cyn uno ag Afon Machno.

Awn nawr am gyfeiriad Ceunant Hafod Fraith. Ar ganol y ceunant, mae craig fawr sy'n cael ei alw'n "Graig Ddu". Ar dop y ceunant lle mae'r afon yn tarddu, gallwch weld Llyn Tomla.

 
  Map y safle / Site map | Cysylltwch â ni / Contact us