Hafan / Home | Siopau / Shops | Afon Machno | Seindorf Arian Machno | Maths | Beics | Lluniau / Pictures
 
     
 
Afon Machno: Termau'r Chwarel
Tarddiad
Rhan 1
Rhan 2

Chwareli
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3

Cwm Penmachno
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3
Rhan 4

Penmachno
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3

TERMAU'R CHWAREL
(O "Canrif y Chwarelwr" gan Emyr Jones, 1963)

AGOR ("Opening")
Rhan o'r bonc neu'r sinc a weithir yn gyntaf er mwyn cael wyneb bargen. Golyga pob chwe llath a weithir bargen newydd. Yn chwareli Ffestiniog golyga 'agor' le mawr agored fel ogof o dan y ddaear.

BAG POWDWR
Bag rwber neu gynfas i gludo powdwr du a nwyddau ffrwydrol eraill o'r tŷ powdwr i'r bonc.

BARGEINWYR
Chwarelwyr profiadol yn gweithio mewn bargen.

BARIA'
Term y chwarel am 'rêls' (rheiliau).

BAW CAFN
Llwch llif wedi ymgasglu yn y cafn dwr o dan y bwrdd nes ei fod fel clai.

BEFAL ("Bevel")
Toriad neu gyswllt syth ar hyd y llechfaen, h.y., gyda'r graen. Mae bron yn anweledig. Wedi ei ddatod mae'r ymyl yn finiog fel rasel ac wedi achosi llawer o ddamweiniau i ddwylo'r gweithwyr. Ni dderbynnir carreg â "befal" ynddi.

CABAN BWYTA
Caban lle'r oedd y chwarelwyr yn bwyta eu cinio. Yma y trinnir pynciau'r dydd ac y cynhelir cyfarfodydd ymadawol. Ceir ynddo drafodaeth frwd ar Gyfarfod Misol a Grand National. Y mae i bob caban ei lywydd i ofalu am y gwahanol gyfarfodydd a gynhelir i gymryd llais y gweithwyr, ac i basio penderfyniadau i'w hanfon i Gyfrinfa Undeb y Chwarelwyr. Hefyd, y gofalwr, neu'r "dyn llnau caban" fel y gelwir; chwarelwyr ar fin ymddeol, neu wedi ei analluogi trwy ddamwain ydyw fel rheol. Ef sy'n gofalu am y tân ac am ddigon o ddŵr berwedig i'r gweithwyr.

CANIAD
Corn y chwarel yn canu i ddynodi'r amser, e.e. amser dechrau gweithio, amser saethu, amser cinio, ac amser noswylio.

CAPSTAN ("Detonator")
Gosodir ar flaen y ffiws i ffrwydro "bolan". Ni ddefnyddir gyda phylor.

CELC
Arian poced a gedwir o'r neilltu ar y slei gan rai o'r chwarelwyr ar ddiwedd mis. Fe ŵyr y wraig beth yw'r cyflog wythnosol, ond nid oes ganddi fawr syniad beth yw'r tâl ar nos Wener setlo. Ni all ofyn i un o bartneriaid ei gwr oherwydd y mae'r chwarelwyr yn driw iawn i'w gilydd. Yr unig ffordd i gael y gwir yw trwy holi un o'r gwragedd a chymharu'r cyflogau.

CERRIG AIL
Cerrig eilradd oherwydd eu trwch.

CERRIG CALED
Llechfaen o ansawdd galed. Ni ellir ei hollti'n denau, ac y mae'r gorchwyl o'i hollti a'i naddu yn drymach ac yn fwy anodd.

CIC DAN BWRDD
Sefyll dros ei hawliau, wedi dioddef peth. Rhoi ei 'droed i lawr' a chodi helynt.

CYNION: (a) CYN BACH; (b) CYN BRASHOLLT
Defnyddir pennaf yn y fargen i drin carreg neu blyg; ond fe'i defnyddir hefyd yn y wal i bileru clytiau a'u cael i siâp.

DAU-DEW-WYTH
Wrth fân-hollti yn y wal, rhaid i'r holltwr ystyried ansawdd y clwt. Os yw yn iach a rhywiog, fe'i holltir yn union yn ei ganol nes cael dau drwch, neu ddau 'dew' fel ai'i gelwir, a disgwylir cael wyth garreg o bob un, yn gwneud cyfanswm o un garreg ar bymtheg.

GORDD
Gordd y wal ("Mallet"). Gordd fechan gron - gwahanol i ordd saer - wedi ei gwneud o 'African Oak', a chylch o haearn am ei deupen. Defnyddir i drawo'r cyn manhollt.

HOLLTI FEL DAU
Am gerrig iach a rhywiog dywedir yr holltan 'fel dail', 'fel sidan' neu 'fel sibols'. Ar y llaw arall pan fu'r hollt yn gyndyn ac yn anwastad dywedir yr holltant 'fel coed'.

LLWYTHWR
Y dyn sy'n llwytho'r cerrig a stoc y gwaith, sef o'r clwt peilio. Telir iddo wrth y dunnell, a rhaid iddo ysgrifennu ei rif ar bob llwyth, a hefyd llythrennau cyntaf enw'r marciwr cerrig a basiodd y cerrig fel rhai cynawys i farchnad. 'Llwythwrs' yw'r lluosog - nid 'llwythwyr'.

MWRW
Rhifir y llechi fesul tair a gelwir y tair gyda'i gilydd yn fwrw. Y mae deng mwrw a dwy lechan, sef deuddeg llech ar hugain, mewn chwarter cant o lechi. Tybir mai o 'môr-rif' y tardd y gair, yn ôl dull y morwyr o rifo'r llechi fesul tair wrth eu llwytho i'r llong - felly y rhifent bysgod.

PLWG
Teclyn a ddefnyddir i agor hollt mewn plyg. Gwneir i fyny o dri darn o haearn ar ffurf cyn. Tyllir ychydig o fodfeddi i'r plyg a gosodir y ddwy 'aden' yn y twll, yna cymerir yr ordd i guro'r darn canol rhyngddynt nes agor yr hollt. Ambell dro, rhoddir ychydig o oel ar y plwg i hwyluso'r gwaith. Defnyddir hefyd mewn chwareli ithfaen.

POWDWR DU-PYLOR
Powdwr du a ddefnyddir bob amser mewn craig dda gan nid yw'n malurio cymaint â nwyddau ffrwydrol eraill.

TARO
Pan fydd y tân wedi llosgi trwy'r papur poeth a chyrraedd y powdwr ar ben y ffiws, gwelir pwff sydyn o fwg i arwyddo hynny, a dywedir ei bod 'wedi taro'.

TEW
Y term cyffredin am haen neu wely o lechfaen - 'tew da' neu 'tew drwg'.

MWY O DERMAU
(Robert Einion Jones)

BARGEN
Darn o graig mewn chwarel a 'osodid' i griw o weithwyr. Byddai'r creigwyr a'r chwarelwyr yn "bartnars" fel rheol ac eraill yn gweithio wrth y dydd.

BWRDD LLIFIO
Darn fflat o haearn gyda bwlch ar ei hyd. Yn y lwm trosai lif, a symudai'r bwrdd yn erbyn y llif.

CEFN
Tebyg i droed ond yn rhedeg efo'r pleriad.

CLWT
Darn o garreg wedi ei lifio mewn o leiaf un pen ac yn barod i'w hollti.

CYN
Darn o haearn 6 ochr ran amlaf a'r blaen wedi ei "dapero" yn araf.

CYN BRASHOLLT
Wedi ei wneud o haearn rhyw 1½" sgwâr ac un pen wedi ei deneuo fel cynffon pysgodyn ond heb y bwlch ynddi.

CYN MANHOLLT
Wedi ei wneud o "spring steel" a'i guro yn denau. Byddai'r ochor finiog yn rhyw 3½" - 5" o hyd.

CYN TEW WYTH
Fel yr awgryma'r enw, cyn wyth llechan o led yw hwn, wedi ei fesur ar draws yr hollt.

EBILL
Haearn crwn a blaen arno a ddefnyddid gydag injan dyllu. Roedd y darn uchaf y shank yn sgwâr.

EBILL TRWYN MORTHWYL
Ebill a'i flaen wedi ei guro gyda morthwyl gan y gof i ffurf hanner lleuad (crescent).

GORDD
Pen o bren crwn a chylch haearn am bob pen. Fel a'i defnyddid, gwasgai'r pren yn dynn i'r cylch gan fynd yn galed iawn.

GWEITHIEN
"Vein" yn rhedeg ar draws yr hollt. Byddai rhai yn galed iawn a ddim yn hollti. Holltai eraill yn rhwydd.

GWEITHIEN DERFYN
Newidiai hon yn ddu os poerai arni. Os byddai carreg rywiog un ochr iddi, ni fyddai'r ochr arall yn gystal (ac i'r gwrthwyneb).

HOLLT
Peth naturiol mewn carreg las. Dim ond un ffordd yr holltai.

INJAN BROJIAR
Fel injan dyllu ond nid yn troi'r ebill. Defnyddid i droi cyswllt pan na fyddai un ar gael. Defnyddid ebill gyda shank crwn iddo.

INJAN DYLLU
Yn cael ei yrru gan awyr wedi ei wasgu i 90 lb sq in. Byddai'r ebill yn cael ¼ tro gan y peiriant cyn i'r morthwyl ynddi ei tharo.

INJAN NADDU
Peiriant yn troi gydag un neu ddwy gyllell. Rhoddid y sglodyn i orffwyso ar y drafael lle'r cai ei dorri gan y gyllell - ar un amser defnyddid cyllell law i wneud yr un gwaith.

MELIN NEU INJAN
Lle y trinnid y graig a'i gwneud yn llechi.

MINIAU
Cyn fychan â "Tapli" sydyn ynddo. Defnyddir i hollti darn mawr o graig. (Nodyn: Ai'r cynion hyn i gyd yn llai fel y defnyddid, ar wahân i'r manhollt a'r Tew Wyth a drewid gyda gordd fach).

PLERIAD
Naturiol eto. Rhed yn groes i'r hollt ar ongl o 90°.

PLÎG
Darn mawr o graig wedi ei dynnu o'r chwarel ac yn barod i'w dorri yn llai a mwy hwylus.

PLWG
Dwy adain a cyn. Rhoddid mewn twll ebill a'i guro i bleru darn o graig.

RHYS
Fel gordd ond yn fwy. I'w ddefnyddio gyda dwy law.

SGLODYN
Llechan wedi ei hollti ond heb ei naddu.

SLANT
Gwall arall ond yn rhedeg ar ongl ar draws yr hollt a'r pleriad. Byddai hwn hefyd yn gollwng wrth ei hollti gan adael ymyl finiog fel rasal.

SLED
Wagen bren - gosodid darn craig o'r plyg arni i'w symud o gwmpas.

TORRI BÔN
Pan na fyddai troed cyfleus, byddai rhaid torri bôn y graig i'w ryddhau. Defnyddid injan fwy na'r cyffredin at hyn, gyda stand arbennig iddi. Defnyddid ebill fwy hefyd a gwnaed rhes o dyllau rhyw 2" ar draws a 1" oddi wrth ei gilydd.

TORRI CYSWLLT
Y cyswllt oedd y darn craig rhwng y tyllau wrth dorri bôn.

TRAFAEL
Darn o injan naddu. Roedd wedi ei osod ychydig o flaen y gyllell er mwyn cael ochr cam i'r toriad.

TROED
Gwall yn y garreg yn rhedeg ar draws yr hollt. Byddai fel rheol yn gollwng wrth hollti.

WAGEN A SKIP
Wedi ei gwneud o fetel ac yn gymwys i gario wast. Roedd ei blaen yn agored a llithrai'r llwyth allan. Metel oedd y skip hefyd ond yn cael ei chynnal ar y canol fel y gellid ei thipio i'r naill ochor.

 
  Map y safle / Site map | Cysylltwch â ni / Contact us