Tarddiad
Rhan 1
Rhan 2
Chwareli
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3
Cwm Penmachno
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3
Rhan 4
Penmachno
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3
|
Yn 1938, roedd dros 90 o ddynion yn gweithio yn chwarel Rhiw Fachno. Roedd y chwarel yn dibynnu yn hollol ar ddŵr o Afon Penrhiw i droi'r peiriannau mawrion. Roedd angen dipyn o ddŵr i gadw'r chwarel i fynd am 8 awr y dydd. Gyda'r nos byddent yn cau'r peipiau dwr er mwyn achub y dŵr oedd yn y llyn a dros nos byddai'r dŵr yn casglu yn y llyn erbyn y bore.
Rhai o weithwyr y Chwarel
Emlyn Davies |
Tu mewn i swyddfa Rhiwbach, gwelwch Emlyn Davies, un o swyddogion y chwarel. Yn y 1940au, efe oedd arweinydd Band Arian Machno ac organydd Capel Shiloh. Bu hefyd yn rhoi gwersi Piano i blant Cwm Penmachno. Mae ei enw o ar fy nhystysgrif Piano i. |
Gweithwyr Rhiwbach, sef Gwyn Jones o'r Cwm ac Evan Owen Roberts o Benmachno. Maent yn sefyll yn ymyl y tryc llwytho llechi. Roedd y rhain yn mynd ar hyd a lled y wlad.
Roedd Gwyn Jones yn ganwr o fri ac yn godwr canu yng Nghapel Wesla, Cwm. Byddai ef a'i wraig Beryl yn mynd o gwmpas pentrefi i ganu efo'i gilydd.
Bu Evan Owen Roberts yn cadw siop ym Mhenmachno sef Llys Caradog, a hefyd yn cadw busnes tacsi a gwerthu petrol.
|
Gwyn Jones, Evan Owen Roberts |
Moi y Gôf |
Llun o Moi Williams y gof, gwr o Benmachno. Fe oedd gof y chwarel, yn gyfrifol am gelfi a pheiriannau'r chwarel, yn eu cadw mewn cyflwr penigamp. Symudodd i fyw i Lanrwst ar ôl i'r chwarel gau.
Sylwch ar y corn simdde tu ôl i Moi - mae'n siŵr na simdde er mwyn cael gwared â mwg y glo a oedd yn cael ei losgi i gynhyrchu trydan i'r chwarel oedd hon.
|
Dau chwarelwr o'r Cwm sef Robert Einion Jones a Jack Hughes. Roeddent hefyd yn aelodau o'r Seindorf Arian.
Aeth Robert Einion o'r chwarel i weithio gyda'r heddlu. Ar ôl cau Rhiwbach aeth Jack Hughes i weithio yn chwarel Rhiw Fachno.
Yn y llun maent yn tyllu carreg i'w gwneud i fesur llechan. Roedd hyn yn grefft ar ben ei hun - i fedru trin cerrig yn gywir a'u troi yn llechi.
|
Robert Einion Jones, Jack Hughes |
Sprig |
Elwyn Griffiths o Benmachno, pawb yn ei adnabod fel "Sbrig". Roedd hefyd yn adnabyddus fel pêl droediwr o fri, y gorau mewn bod yr adeg yma. Mi fuasai heddiw yn chwarae i dîm fel Lerpwl mae'n siŵr. Yr oedd yn un cyflym iawn ar y cae Pêl-droed, felly cafodd ei enw "Sprig" wrth gwrs. Roedd ei deulu i gyd yn rhai campus am bel-droed. |
Yn awr gwelwch Chwarelwyr Rhiw Fachno yn y flwyddyn 1953, y llun wedi cael ei dynnu tu allan i'r Injan Newydd. |
Criw o Chwarelwyr |
Domen |
Awn i lawr yn ôl o Chwarel Rhiwbach, a chawn gip olwg ar ddiwedd Afon Penrhiw. Yn y fan yma yn Swch, lle mae'r domen yn gorffen, mae Afon Penrhiw yn uno hefo Afon Machno. |
Tracsion Rhiw Fachno yn Stryd Ddôl Cwm. Yr hyn a ddywedir ar y tryc yw hyn: "Cwm Machno Slate Quarries Ltd., Cwm Penmachno, Nr. Bettws-y-Coed." Rhif y cerbyd yw CC 4439. |
Tracsion |
Cliciwch yn fan hyn er mwyn cael dysgu ychydig am dermau'r chwarel a'u hystyrion. Mae rhai o'r termau wedi denig o'r cof ers talwm!
Mi oedd y chwarel yn le prysur iawn ar y pryd, fel yr ydych wedi gweld o'r lluniau gynt. Fe awn nawr yn ôl i ddilyn trywydd yr Afon Machno, gan ddechrau ym Mhont Selar...
|