Hafan / Home | Siopau / Shops | Afon Machno | Seindorf Arian Machno | Maths | Beics | Lluniau / Pictures
 
     
 
Afon Machno: Y Chwareli, Rhan 2
Tarddiad
Rhan 1
Rhan 2

Chwareli
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3

Cwm Penmachno
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3
Rhan 4

Penmachno
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3

Yn ôl llyfr W. O. Pritchard, "Cwm Penmachno", damwain oedd darganfod fod cerrig llechi ar gael yn yr ardal. Bu'r bobl leol yn cerdded yn ôl ac ymlaen ar y mynydd yn nol mawn i gynnau tân, ac wrth wneud hyn fe wisgwyd wyneb tenau'r tir. Darganfuwyd y garreg lech yn sgìl hyn.

[Bonc Injan Newydd]
Bonc Injan Newydd
Tu ôl i'r domen a welwch, sef lle prysur yn y dyddiau cynt. Dyma le safai'r injan newydd.

Dyma lun o'r Injan Newydd lle'r oedd ar y bonc, sydd yn nawr yn wag fel y dangosir yn y llun uchod. Yn yr Injan Newydd roedd chwech o fyrddau yn cynhyrchu llechi.
[Injan Newydd]
Injan Newydd

[Slediad]
Slediad
Dyma beth a alwyd yn "Slediad", sef cerrig o'r mynydd wedi cael eu gosod yn daclus ar y tryc, er mwyn eu cludo i'r felin.

Roeddent yn gweithio o dan y ffordd sydd yn arwain i'r chwarel ac yn mynd am Ros Goch. Byr fu'r gweithio yno, craig rhy sâl a chaled, wedyn newid i gyfeiriad arall, am y Terrace. Roedd llawer o agorydd yno; roedd y caban bwyta yn un rhyfedd iawn - hen agor wedi ei orffen, ac wedi gwneud caban ynddi, ychydig o lechi cryfion fel to, ond yn y canol, hen ddim lle i'r mwg gael mynd allan, lle tân i ferwi dŵr i ginio. Yr agor olaf i weithio yno oedd o dan Glan Aber Terrace, ar derfyn Chwarel Rhiwbach yn rhai o agorydd Twll Dwr.

[Twll Dwr]
Twll Dwr

Roeddent wedi taro ar lygad da, ac yn ildio llechi da, felly roedd yn rhaid gyrru ymlaen am Terrace. Ond un noson daeth cwymp i lawr, a chau'r agorydd i gyd. Roedd yn golled enfawr i'r Cwm, ac i'r gweithwyr oedd mewn bargeinion yno, oherwydd roedd cerrig da iawn yn cael ei gynhyrchu oddi yno. Roedd tua 11 o fyrddau wedi eu colli i gynhyrchu llechi. Penderfyniad y goruchwylwyr yn y diwedd oedd bod rhaid mynd yn ôl, felly dechrau clirio ond nid gyda pheiriant - ond nerth braich, caib a rhaw, a gordd. Diolch ei bod yn haf, a'r tywydd yn neilltuol o braf. Ymhen ychydig o wythnosau daeth ceg y mynediad i'r golwg, ac ar ôl archwilio gweld fod y tu fewn yn iawn, ac felly prysuro ymlaen. Daeth hyn i ben pan oedd y tywydd yn dechrau troi, felly cafodd pawb ail-ddechrau unwaith eto, a hogiau'r felin yn falch o gael cynhyrchu llechi go dda unwaith eto.

[Afon Penrhiw]
Afon Penrhiw
Yn y llun yma, rydym yn mynd i fyny Afon Penrhiw. Blynyddoedd maith yn ôl roedd digon o bysgod yn yr afon, ond roedd pawb yn cwyno fod blas mawn ar y pysgod.

[Afon Penrhiw]
Hen Lun o Afon Penrhiw

Mae Afon Penrhiw yn rhedeg i lawr tu ôl i domennydd top chwarel Rhiw Fachno ac yn mynd o dan y tomennydd i gyd. Mae yn uno gyda'r Afon Fachno yn Swch.

Defnyddir y dŵr o'r afon i droi'r peiriannau yn y chwarel. Yn ddiweddarach gosodwyd peipiau o Lyn Penrhiw i lawr i'r olwyn ddŵr.


[Afon Penrhiw]
Afon Penrhiw, 1960au
Rhedir Afon Penrhiw i lawr i Lyn Penrhiw sydd tua 2 filltir o Gwm Penmachno. Tynnwyd y llun yma ar ddiwedd y 1960au. Chwarel Cwt y Bugail sydd yn y cefndir.

Dyma lun o Lyn Penrhiw cyn i wal y llyn dorri. Tynnwyd y llun yma yn y 1950au. Ar un adeg bu teuluoedd Cwm Penmachno yn dod yma i bysgota brithyll.
[Llyn Penrhiw]
Llyn Penrhiw

Dyma gei'r llyn cyn iddo fo ddymchwel yn y 1960au. Daeth henaint i'r hen wal a neb wedi bod yn ei thrin ers cau'r chwarel yn 1962.
[Wal Argau]
Wal Argau

Nawr mae golwg truenus ar y llyn a'r dŵr bron wedi llifo i lawr y mynydd i gyd. Mae'n siŵr fod pwysau'r dŵr ar wal yr hen lyn wedi bod yn ormod iddo. Pan chwalodd y cei yr oedd dipyn o'r dŵr wedi cyrraedd i lawr i Benmachno, a'r trigolion yn methu dallt beth oedd wedi digwydd.
[Wedi Dymchwel]
Wedi Dymchwel

[Pentref Rhiwbach]
Pentref Rhiwbach
Wrth ddal i ddilyn yr afon fe ddawn i Bentref Rhiwbach, lle'r oedd teuluoedd yn byw ers talwm. Ar un adeg adeiladwyd llyfrgell yn y pentref.

Roedd yr athrawes yn y llun yn dod o Flaenau Ffestiniog ac yn cerdded i'r ysgol bob dydd, taith o tua 3 milltir.
[Plant Ysgol Rhiwbach, 1909]
Plant Ysgol Rhiwbach, 1909
 
  Map y safle / Site map | Cysylltwch â ni / Contact us