Hafan / Home | Siopau / Shops | Afon Machno | Seindorf Arian Machno | Maths | Beics | Lluniau / Pictures
 
     
 
Afon Machno: Y Chwareli, Rhan 1
Tarddiad
Rhan 1
Rhan 2

Chwareli
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3

Cwm Penmachno
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3
Rhan 4

Penmachno
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3

Nid oes neb yn siŵr pryd agorwyd chwarel Rhiw Fachno, ond yn ôl Llyfr Gethin, agorwyd y chwarel gyntaf yn yr ardal yn 1819 (Chwarel Rhiwbach). Ar un adeg bu 4 chwarel yn agored yn yr ardal, pan oedd y diwydiant ar ei fri. Heddiw wrth gwrs nid oes unrhyw chwarel yn agored, y diwethaf wedi ei gau yn 1962.

Awn nawr am daith fach o gwmpas y chwareli a'u golygfeydd, gan gychwyn yn fynedfa'r chwareli.

[Mynedfa i'r Chwarel]
Mynedfa i'r Chwarel
Dyma fynedfa i chwarel Rhiw Fachno, a hefyd y ffordd i fyny am chwarel Rhiwbach.

Yn y lluniau canlynol, cewch weld cip olwg ar Chwarel Cwm Penmachno — heddiw ac fel yr oedd.

[Bonc yr Injan Goch]
Yn y llun yma gwelwch beth oedd yn arfer bod yn Bonc yr Injan Goch.
[Hen Melin]
Llun o'r Tair Melin, y Swyddfa a'r Cwt i bweru'r Chwarel.

[Cwt Powdwr 1]
Ar waelod y bonc, fel y mae heddiw. Gellwch gerdded ymlaen i fynydd Foel.
[Cwt Powdwr 2]
Ar waelod y bonc roedd cwt i gadw defnyddiau ffrwydron. Heddiw mae'r cwt wedi dymchwel.

[Inclên Hill 60]
Inclên "Hill 60"
Dyma'r dull o ddod a'r cerrig i lawr i'r felin o dop y mynydd, ar beth oedd yn cael ei alw'n "inclên". Gwaith peryg iawn oedd gweithio'r inclêns - oherwydd roedd y tryciau weithiau yn troi drosodd ac yn mynd oddi ar y rheiliau. Mae aml i un wedi cael ei anafu yn gweithio yma.

[Prisiau 1]
Dyma faint oedd pris adeiladu inclên 500 llath.
[Pris 2]
Dyma faint oedd pris adeiladu inclên 308 llath.

Roedd y darn yma o'r chwarel yn cael ei adnabod fel "Hill 60". Llun cynnar o'r chwarel a welwch.
[Top Chwarel Rhiw Fachno]
Top Chwarel Rhiw Fachno

[Swyddfa]
Swyddfa'r Chwarel yn yr amser aur.
[Swyddfa]
Swyddfa'r Chwarel fel ac y mae heddiw.
 
  Map y safle / Site map | Cysylltwch â ni / Contact us