Tarddiad
Rhan 1
Rhan 2
Chwareli
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3
Cwm Penmachno
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3
Rhan 4
Penmachno
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3
|
Cymuned glos oedd Cwm Penmachno, pentref bach lle'r oedd pawb yn adnabod ei gilydd ac yn cyd-fyw yn hapus. Mae'r afon yn cyfarfod Cwm cyntaf wrth Bont Glan-yr-Afon. Mae'n rhedeg i lawr yn dawel o dan Bont Selar ac wedyn Bont y Swch, heibio domennydd Swch lle mae Afon Penrhiw yn ymuno, i lawr yn ei blaen am Dyfnant lle mae Ceunant Hafod Fraith yn uno. Ai'r afon o dan Bont Rhyd-y-Meirch cyn mynd draw at Bont Foel lle mae'r Afon Foel yn ymuno, ac wedyn ar ei ffordd trwy Dolydd, Carrog, nes cyrraedd Pont Rhyd-y-Gro ac yn ei blaen wedyn am Benmachno.
Dal i gerdded i lawr yr afon - mi awn heibio caeau Pen Bryn Melyn a Chae Bont, cyn cyrraedd Ffarm Tyddyn Bach. Bu aml i fachgen ieuanc yn gweithio yma i galedi cyn mynd i'r chwarel i weithio.
![[Tyddyn Bach]](08tydd.jpg)
Tyddyn Bach
Ganwyd William Machno Jones yn Nhyddyn Bach yn 1845, yn fab i Owen a Catherine Jones. Yn ei blentyndod roedd yn fugail i ddefaid ei dad, ac yn mynd i'r ysgol yn Rhyd-y-Meirch am gyfnod byr. Dechreuodd bregethu yn 1862. Yn fuan wedyn aeth i ysgol Clynnog o dan yr athro enwog Eben Fardd a'i olynydd Dewi Arfon. Ar ôl gorffen ei gwrs yn yr ysgol yma dysgodd William Machno Jones am ddwy flynedd yn Rhyd Ddu ger troed Y Wyddfa. Priododd Miss Alice Williams ar Ragfyr y 3ydd, 1868. Caeth ei ordeinio'r un amser a'r Gweinidog Thomas E. Hughes yn Cumbria Wisconsin yn 1870. Daeth y Gweinidog William Machno Jones i'w adnabod fel Pregethwr effeithiol ac abl.
Yn ôl cyfrifiad 1881, Teulu'r Morris oedd yn byw yn Nhyddyn Bach. Rhestrir David Morris fel pennaeth y teulu, yn "Farmer of 20 Acre". Roedd y wraig Ellen a'r ferch Jane yn byw yno hefyd, gyda'r gwas 19 oed Owen Jones.
Machno Terrace |
Roedd hon yn stryd brysur iawn ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf, yn oes y chwarel. Ar waelod y stryd roedd siop Dafydd Evans yn gwerthu pob math o nwyddau. Yn ymyl y siop roedd Pont Selar yn croesi'r afon i fynd a chi ar eich taith i Flaen y Cwm. |
Ers talwm roedd yna bont yn croesi'r afon yn cael ei alw yn Bont Glan yr Afon, ond mae'r bont wedi cwympo i'r afon ers blynyddoedd. Gyferbyn a'r stryd roedd y Band yn ymarfer yn y cwt ar y chwith. |
Glan yr Afon |
Terrace |
Mae'r Afon yn parhau heibio gwaelod Terrace, sef Stryd Machno a Rhiwbach. O flaen y stryd roedd cae pêl-droed enfawr. Bu tîm pêl-droed y pentref yn chwarae eu gemau yma am amser hir. Roedd yr ystafell newid yn siop fy nhad ar ochr bellaf y cae. |
Nawr cerddwn i fyny oddi wrth yr afon ac yn ein hwynebu mae Stryd Glan Aber. Ar yr ochr uchaf i'r stryd roedd Capel Carmel. Yn rhif 3 roedd barbwr yn torri gwalltiau. |
Glan Aber Terrace |
Dyma dro pwysig iawn yn hanes y Cwm, sef mynediad i'r chwareli, a'r ffordd i gerdded dros y mynydd i Ffestiniog. |
Tro Tan Rhiw yn yr hen ddyddiau, lle'r oedd stryd o dai a thafarn. |
Ar un adeg byddai plant Cwm Penmachno yn chwarae pêl-droed a chriced ar y tro - gosod y wiced yn waelod y domen. Nid oedd angen rhedeg ar ôl y bêl wedyn os oedd y batwyr wedi methu trawo'r bêl! Heddiw, mae bysus yn gorfod troi'n ôl ar y tro yma oherwydd maent yn methu mynd i mewn i'r teras oherwydd y ceir sydd wedi parcio ar y stryd yno.
Awn nawr am daith oddi wrth yr Afon Fachno i Afon Penrhiw ac i fyny trwy'r chwarel. Ar y ffordd cawn weld ychydig o'r golygfeydd ar y daith, a chawn ychydig o hanes gweithwyr y chwarel.
|