Tarddiad
Rhan 1
Rhan 2
Chwareli
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3
Cwm Penmachno
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3
Rhan 4
Penmachno
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3
|
Awn nawr am daith o darddiad yr Afon Machno nes uno gydag Afon Conwy, taith o tua 7-8 milltir. Cychwynnwn yn dechrau'r afon, sef yn Nhwll y Cwm, Cwm Penmachno.
![[Twll y Cwm]](01twll.jpg)
Twll y Cwm
Sut le oedd Twll y Cwm ers talwm? Gallwch feddwl sut fath o fywyd oedd i gael yn byw yma blynyddoedd maith yn ôl, a'r mynyddoedd yn sefyll o'ch cwmpas fel cewri. Nid oes neb yn byw yn agos i'r lle heddiw, a neb wedi byw yma ers blynyddoedd lawer.
Yn 1881, roedd David Roberts, Barbara J. Jones a Mary Davies yn byw yn 1 Twll y Cwm. Yn 2 Twll y Cwm roedd teulu Hugh a Jane Jones yn byw. Yn ddiweddarach bu teulu Lloyd yn byw yn Nhwll y Cwm (Humphrey a Jane). Collwyd eu mab Ithel Lloyd yn y rhyfel byd cyntaf, 1914-1918. Mae ei enw ar y gofeb yng Nghapel Bethania, Penmachno.
Ger Bron Twll y Cwm mae tarddiad yr Afon Machno. Gwelwch yn y lluniau islaw lle mae'n bosib gweld yr Afon am y tro cyntaf heb ddringo i fyny'r mynydd! Mewn gwirionedd mae'r afon yn cychwyn ychydig yn uwch na'r hyn a welwch isod, o nant fach o Graig Blaen y Cwm.
Tarddiad yr Afon, Llun 1 |
Tarddiad yr Afon, Llun 2 |
Ond beth yw Afon meddech chi? Mae afon yn ffurfio o ddŵr glaw sydd yn llifo i lawr ochr y mynyddoedd a'r bryniau cyfagos. Bydd y dŵr yn llifo'n gyflym tua'r tir is, yn golchi'r pridd a'r cerrig rhydd i ffwrdd, ac yn lledu a dyfnhau nes ffurfio nant fach. Bydd nifer o nentydd yn llifo i'w gilydd ac yn troi yn afon.
Nant Beti Richards |
Ar y chwith, gwelwch geunant bach yn rhedeg i lawr y mynydd o'r enw Nant Beti Richards. Tybed a oes rhywun yn gwybod pam gelwid y nant yn hyn?
|
Ffarm Twll y Cwm |
Diwrnod Cneifio yn Nhwll y Cwm, 1934 |
Dyma rai o'r bobl yn y llun uchod: Hugh Owen Tyddyn Bach, William Williams Foel, Edward Roberts Swch, Mrs. Williams Foel, John Ifor, Bertie Jones Llechwedd Hafod, Thomas Jones Hafod Fraith, Gwilym Williams Pen Bedw, William Jones Llechwedd Hafod (efo'r ci). Fel y gwelwch, bwthyn bach un llawr oedd Twll y Cwm.
Ceunant Twll y Cwm |
Ceunant Twll y Cwm, yn ymyl tarddiad yr afon. Mae'r ceunant yma yn tarddu o gors o gopa'r mynydd ac yn rhedeg i lawr i Afon Machno. |
Wrth drafaelio i lawr yr afon, safai Fferm fach Can Cwm. Roedd Mam yn sôn am ferch fach a fu farw yn Can Cwm yn ystod y gaeaf, a bu rhaid iddynt gario'r arch fach trwy'r eira mawr o Gan Cwm i lawr i'r Ddôl ac wedyn hefo hers a cheffylau i lawr i'r Llan i'w chladdu.
Bu Owen Jones yn byw yn Can Cwm yn 1858 |
Dyma Lun o Gan Cwm a dynnais yn 1953 |
Nawr yr ydym wedi gweld lle mae Afon Machno yn cychwyn, trafaeliwn i lawr yr afon tuag at y pentref cyntaf mae'n cyfarfod â, sef Cwm Penmachno.
|